Cyllid Mynediad Graddedigion (GEM) at Feddygaeth (Blwyddyn 1)
Gall myfyrwyr sydd wedi astudio’r llwybrau bwydo canlynol wneud cais i astudio Mynediad Graddedigion at Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd:
- BSc (Anrhydedd) Ffarmacoleg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd (B210)
- BSc (Anrhydedd) Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd (BC97)
- BMedSci Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor (B100)
- BSc (Anrhydedd) Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol De Cymru (B901)
Nid oes cyllid gan y GIG ar gael ym Mlwyddyn 1.
Mae cyllid ar gael trwy eich gwasanaeth cyllid myfyrwyr yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw fel arfer yn y DU. Os byddwch chi'n dechrau GEM yn syth ar ôl cwrs llwybr bwydo, mae hyn yn debygol o olygu y gallwch wneud cais am gyllid trwy'r gwasanaeth cyllid myfyrwyr a ariannodd y cwrs llwybr bwydo. Mae Mynediad Graddedigion at Feddygaeth yn cael ei drin fel cwrs israddedig at ddibenion cyllido ond gyda rhai rheolau gwahanol.
Ffioedd dysgu
Ar gyfer blwyddyn gyntaf y cwrs Mynediad Graddedigion at Feddygaeth, bydd rhaid i chi dalu'r £3,465 cyntaf o ffioedd eich hun. Gallwch gael Benthyciad Ffioedd Dysgu i dalu'r gweddill drwy eich gwasanaeth cyllid myfyrwyr.
Help gyda chostau byw
Benthyciad myfyrwyr
Gallwch chi ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth i'ch helpu gyda'ch costau byw’n unig.
Dyma'r cyfraddau Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru a Lloegr am fyw i ffwrdd o gartref y rhieni.
Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru | Swm y flwyddyn |
---|---|
Nid yw'n cael ei asesu ar sail incwm | £10,720 |
Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr | Mae’n cael ei asesu ar sail incwm |
---|---|
Uchafswm | £9,978 |
Isafswm | £4,651 |
Help gyda chostau lleoliad
Nid yw'r help gyda'r costau teithio i leoliad wedi'i asesu yn ôl incwm. Mae’r help yn seiliedig ar gost y daith o'ch cyfeiriad cartref i'r lleoliad ac yn ôl LLAI cost y daith o'ch cyfeiriad cartref i Brifysgol Caerdydd ac yn ôl.
Plant a/neu oedolion sy'n ddibynyddion
Mae cyllid ychwanegol ar gyfer plant gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant cofrestredig ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr. Mae yna hefyd grant ar gyfer dibynyddion sy’n oedolion. Mae'r gefnogaeth hon yn dibynnu ar incwm y partner neu’r priod os yw'n berthnasol. Bydd gan wefan y gwasanaeth cyllid myfyrwyr ragor o wybodaeth am y gefnogaeth hon i ddibynyddion.
Anghenion cefnogaeth dysgu ychwanegol
Mae cyllid ychwanegol ar gyfer plant gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant cofrestredig ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr. Mae yna hefyd grant ar gyfer dibynyddion sy’n oedolion. Mae'r gefnogaeth hon yn dibynnu ar incwm y partner neu’r priod os yw'n berthnasol. Bydd gan wefan y gwasanaeth cyllid myfyrwyr ragor o wybodaeth am y gefnogaeth hon i ddibynyddion.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Anabledd a Dyslecsia yn studentconnect@caerdydd.ac.uk. Rydych chi'n ymgeisio am y DSA drwy eich awdurdod cyllido.
Cyngor pellach
Os hoffech mwy o gyngor a gwybodaeth am yr arian sydd ar gael, cysylltwch â'r Adran Cyngor ac Arian.