Cyllid Mynediad Graddedigion at Feddygaeth (Blynyddoedd 2-4)
Gall myfyrwyr sydd ym mlynyddoedd 2, 3 neu 4 o'r Cynllun Mynediad Meddygaeth i Raddedigion wneud cais am gymorth ariannol wrth y GIG a Chyllid Myfyrwyr i'w helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
Ffioedd dysgu
Mae'r GIG yn talu'r £3,465 cyntaf beth bynnag yw incwm y teulu. Bydd angen i chi ymgeisio am fwrsariaeth y GIG fel bod y GIG yn talu am eich ffioedd dysgu.
Bydd gennych y dewis i wneud cais am fenthyciad Ffioedd Dysgu Myfyrwyr ar gyfer balans y ffioedd.
Sut i ymgeisio
Dylech chi wneud cais ar-lein ar gyfer y bwrsariaeth GIG cyn dechrau ar eich cwrs. Bydd yr awdurdod y byddwch yn delio â nhw yn dibynnu ar ble roeddech chi'n byw cyn dechrau'r cwrs.
Lle roeddech yn byw | Awdurdod Cyllid |
---|---|
Cymru | Gwasnaethau Grantiau Myfyrwyr y GIG (Cymru) (NHS SAS) |
Lloegr | Awdurdod Gwasnaethau Busnes y GIG (NHS BSA) |
Alban | Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr ar gyfer yr Alban |
Gogledd Iwerddon | Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon |
Bydd yr awdurdod cyllido perthnasol yn asesu eich cais ac yn rhoi gwybod i'r Brifysgol ac i chi am y grant. Os ydych chi'n gymwys i dderbyn bwrsariaeth a Grant y GIG ar gyfer costau byw bydd Swyddfa Gyllid y Brifysgol yn ei thalu i mewn i'ch cyfrif banc.
Help gyda chostau byw
Bwrsariaeth y GIG
Mae bwrsariaeth y GIG sy'n dibynnu ar brawf modd ar gael i fyfyrwyr cartref y DU sy'n cael eu hariannu.Asesir hon yn erbyn incwm yr aelwyd.
Nid yw’r tabl yn cynnwys lwfans am wythnosau astudio ychwanegol. Mae’r flwyddyn academaidd safonol yn rhedeg o’r drydedd wythnos ym mis Medi i ganol mis Mehefin. Ar gyfer bob wythnos ychwanegol mae’n rhaid i chi fynychu eich cwrs tu allan i’r cyfnod, mae £84 yn cael ei ychwanegu at hawl am fwrsariaeth. Mae’r ychwanegiad yn rhan o’r asesiad incwm.
Os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni, bydd eich hawl i fwrsariaeth yn cael ei lleihau.
Incwm gros yr aelwyd | Bwrsariaeth GIG sydd ar gael |
---|---|
£24,279 neu lai | £2,643 |
£30,000 | £1,996 |
£35,000 | £1,470 |
£40,000 | £944 |
£45,000 | £417 |
£50,000 | £0 |
Grant y GIG
Gallwch ymgeisio am Grant y GIG nad yw'n dibynnu ar brawf modd o hyd at £1000 y flwyddyn i helpu gyda chostau byw.
Benthyciad myfyrwyr
Byddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth llai trwy eich gwasanaeth cyllid myfyrwyr. Bydd eich hawl i fenthyciad yn dibynnu ar ble roeddech yn byw cyn y cwrs. Nid yw'n seiliedig ar asesiad incwm.
Blwyddyn cwrs | Myfyrwyr yn byw yng Nghymru cyn y cwrs | Myfyrwyr yn byw yn Lloegr wedi'r cwrs |
---|---|---|
Blynyddoedd 2 a 3 | £5,360 | £2,605 |
Blwyddyn Olaf | £5,360 | £2,030 |
Ymgeisio trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru | Ymgeisio trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr |
Plant a/neu oedolion sy'n ddibynyddion
Gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol a asesir yn ôl incwm os oes gennych blant neu oedolyn dibynnol yn byw gyda chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy eich awdurdod cyllido yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw fel arfer yn y DU fel a ganlyn:
- Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes GIG (NHS BSA) Lloegr
- SAAS
- Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon
Anghenion cymorth dysgu ychwanegol
Os oes angen cymorth dysgu arnoch chi yn gysylltiedig ag anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir, neu anhawster dysgu penodol, mae lwfans ar gael nad yw'n seiliedig ar asesiad incwm ac nad oes rhaid ei ad-dalu a allai helpu gyda chostau cysylltiedig y cymorth hwn. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yw’r lwfans hwn.
Mae rhagor o fanylion gan y Tîm dros Anableddau a Dyslecsia: studentconnect@caerdydd.ac.uk. Rydych chi'n ymgeisio am y DSA drwy eich awdurdod cyllido.