Ewch i’r prif gynnwys

Arian Cyllid Myfyrwyr

Os nad ydych yn bwriadu ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso, gallwch barhau i astudio cwrs gofal iechyd yng Nghymru a gwneud cais i ariannu eich cwrs trwy Gyllid Myfyrwyr.

Os ydych chi'n optio allan o gyllid GIG, bydd angen i chi gofrestru eich penderfyniad gyda Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru cyn ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr.

Fel arfer, bydd cymorth Cyllid Myfyrwyr ar gael i’r rhai sy’n astudio’r cyrsiau canlynol:

  • Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc)
  • Therapi Galwedigaethol (BSc)
  • Nyrsio (BN)
  • Bydwreigiaeth (BMid)
  • Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
  • Ffisiotherapi (BSc)
  • Therapi a Hylendid Deintyddol (BSc)
  • Hylendid Deintyddol (DipHE)
  • Ffisiotherapi Cyn Cofrestru (MSc)
  • Therapi Galwedigaethol Cyn Cofrestru (MSc)

Os ydych chi'n ddinesydd Gwyddelig neu'n fyfyriwr yn yr UE gweler isod am arweiniad pellach.

Sut i wneud cais

1. Cofrestru eich penderfyniad i beidio â chael Bwrsariaeth GIG Cymru ar wefan Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru yw’r cam cyntaf. Defnyddiwch y ddolen ar gyfer ‘Myfyrwyr Newydd’ a chofrestrwch i gael cyfrif. Ar y dudalen gofrestru, gofynnir i chi a ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru, a bydd opsiwn ar gael i ddweud ‘Na’.

Bydd Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG yn anfon e-bost atoch sy’n cynnwys cod unigryw i gadarnhau eich bod wedi penderfynu peidio â chael Bwrsariaeth GIG Cymru. Bydd angen i chi gyflwyno’r e-bost hwn i’ch gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr.

2. Y cam nesaf yw gwneud cais i'r gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr ar sail lle rydych chi fel arfer yn byw yn y DU cyn dechrau'r cwrs. Mae’n haws cyflwyno cais ar PDF (ffurflen PN1 fel myfyriwr newydd). Bydd hyn yn eich galluogi i gyflwyno cais am bopeth ar un ffurflen gan gynnwys cymorth gyda ffioedd dysgu a chynhaliaeth ar sail incwm.

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais gan eich gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr drwy’r dolenni canlynol:

Os ydych yn byw yn yr Alban fel arfer, cysylltwch â SAAS i holi am y ffordd orau o wneud cais am gyllid i astudio cwrs yng Nghymru.

3. Pan fydd gennych eich cyfeirnod cwsmer Cyllid Myfyrwyr, anfonwch yr e-bost SAS GIG Cymru gyda'r cyfeirnod optio allan unigryw i Gyllid Myfyrwyr i gadarnhau eich bod wedi optio allan o gyllid gan y GIG. Dylai hyn sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu ar sail myfyriwr sydd wedi'i optio allan, a'ch galluogi i gael gafael ar gyllid myfyrwyr llawn ganddynt.

Bydd angen i fyfyrwyr o Gymru anfon y cadarnhad hwn i bursary_opt_out_SFW@slc.co.uk

Bydd angen i fyfyrwyr o Loegr anfon y cadarnhad hwn i bursary_opt_out_SFE@slc.co.uk

Nodwch eich enw a’ch Cyfeirnod Cwsmer Cyllid Myfyrwyr.

Ar gyfer myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon a SAAS, gwiriwch â'ch awdurdod cyllido eu bod wedi derbyn y copi o'r e-bost optio allan a anfonwyd gyda'ch cais.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais i'ch corff Cyllid Myfyrwyr a heb ddarparu cod optio allan unigryw y GIG, byddant yn tybio eich bod yn cael cyllid y GIG oherwydd mai dyna'r gosodiad diofyn ar gyfer cwrs gofal iechyd yng Nghymru. Felly, dim ond Benthyciad Cynhaliaeth cyfradd is a gaiff ei gynnig i chi. Ar gyfer Cyllid Myfyrwyr Lloegr mae hyn yn £2,605 ac ar gyfer Cyllid Myfyrwyr Cymru mae hyn yn £5,360 yn 2023/24.

Os ydych yn optio allan o gyllid y GIG, dylech allu cael gafael ar gyllid llawn gan eich corff Cyllid Myfyrwyr yn lle hynny.

Bydd angen i chi wneud cais llawn am gyllid i'ch corff Cyllid Myfyrwyr. Er mwyn gwneud hyn mae angen i chi:

  1. Rhoi eich rhif optio allan GIG unigryw i'ch corff Cyllid Myfyrwyr (gweler y camau uchod)
  2. Aros i'ch corff Cyllid Myfyrwyr gadarnhau hynny
  3. DIM OND os oes gennych gyfrif gyda'ch corff Cyllid Myfyrwyr yn barod – mae angen i chi ofyn am brawf modd am gyllid er mwyn i chi allu cael eich asesu ar gyfer y Benthyciad Cynhaliaeth. Bydd angen asesu incwm eich cartref. Rydych yn gwneud hyn drwy lenwi amryw o ffurflenni ar-lein, a’u cyflwyno:

Ar gyfer deiliaid cyfrifon Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW):

Ffurflen PFF2 SFW 2023/24

Ffurflen dim prawf modd i brawf modd SFW 2023/24

Ffurflen gais Benthyciad Ffi Dysgu SFW

Ar gyfer deiliaid cyfrifon Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE):

Ffurflen PFF2 SFE 2023/24

Ffurflen dim prawf modd i brawf modd SFE 2023/24

Ffurflen gais Benthyciad Ffi Dysgu SFE – bydd angen i chi ofyn yn uniongyrchol gan SFE

Ar ôl i chi lenwi eich ffurflenni, gallwch eu lanlwytho i'ch cyfrif ar-lein gyda Cyllid Myfyrwyr, neu eu hanfon drwy’r post.

Pan fyddwch wedi cael eich asesu'n llawn, byddwch yn derbyn llythyr Hysbysiad Ariannol gan eich corff Cyllid Myfyrwyr, a fydd yn nodi swm y Benthyciad Ffioedd Dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth y mae gennych hawl iddynt. Gwnewch yn siŵr bod y symiau hyn yn gywir.

Mae cymorth Cyllid Myfyrwyr llawn yn cwmpasu'r canlynol:

Ble bynnag rydych chi'n byw yn y deyrnas, daw’r arian ar gyfer ffioedd dysgu ar ffurf Benthyciad Ffioedd Dysgu trwy Gwmni’r Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Cewch chi ofyn am fenthyciad i dalu’r ffioedd i gyd. Fydd eich incwm ddim yn cael ei asesu ar gyfer y benthyciad.

Rhaid gofyn am y benthyciad yn rhan o’r cais y byddwch chi’n ei gyflwyno trwy wefan Cyllid Myfyrwyr.

Gall myfyrwyr sy'n gymwys i gael cyllid cartref y DU ar gyfer cynhaliaeth dderbyn £11,720 y flwyddyn, waeth beth fo'u hincwm (cyfradd ar gyfer myfyrwyr sy'n byw mewn llety myfyrwyr neu'ch cartref eich hun). Bydd llai o gyllid yn ystod y flwyddyn olaf.

Caiff eich incwm ei asesu i bennu faint o’r £11,720 ddaw ar ffurf grant a faint fydd yn fenthyciad.

Ar gyfer incwm o £18,370 neu lai, y grant fydd £8,100 a'r benthyciad fydd £3,620. Ar gyfer incwm o £59,200 neu fwy, y grant fydd £1,000 a'r benthyciad fydd £10,720.

Cewch chi lai o arian os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich cwrs.

Os ydych yn sengl, ni chaiff incwm eich rhieni ei asesu os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn, neu os oes plant gyda chi, os ydych chi a’ch rhieni wedi ymddieithrio neu os ydych chi’n gallu dangos eich bod wedi cynnal eich hun yn ariannol am dair blynedd cyn dechrau’r cwrs.

Mae rhagor am gymorth gyda chostau byw ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae wythnosau ychwanegol yn y rhan fwyaf o’n cyrsiau gofal iechyd. Mae £141 ychwanegol o Fenthyciad Cynhaliaeth yr wythnos ar gael os ydych yn byw mewn llety myfyrwyr. Mae dyddiadau tymor yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly bydd cyfanswm ychwanegol y Grant Cynhaliaeth sydd ar gael hefyd yn amrywio.

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhieni sengl dderbyn uchafswm y cymorth ychwanegol, fel arfer.

Gall myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer cyllid cartref DU ar gyfer cynhaliaeth wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth o hyd at £9,978y flwyddyn o astudio (cyfradd ar gyfer myfyrwyr sy’n byw mewn llety myfyrwyr neu eich cartref eich hun). Bydd llai o arian ar gael i’w fenthyg ym mlwyddyn olaf y cwrs.

Asesir incwm i bennu faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a gewch.

Ar gyfer incwm o £25,000 neu lai, bydd y benthyciad yn £9,978.

Ar gyfer incwm o £62,250 neu fwy, y benthyciad fydd £4,651.

Cewch chi lai o arian os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich cwrs.

Os ydych yn sengl, fydd incwm eich rhieni ddim yn cael ei asesu os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn, neu os oes gennych blant, neu os ydych chi a’ch rhieni wedi ymddieithrio neu os ydych chi’n gallu dangos eich bod wedi’ch cynnal eich hun yn ariannol am dair blynedd cyn dechrau’r cwrs.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth gyda chostau byw ar wefan Student Finance England.

Mae wythnosau ychwanegol yn y rhan fwyaf o’n cyrsiau gofal iechyd. Yn seiliedig ar incwm a asesir hyd at £39,796, mae swm ychwanegol o Fenthyciad Cynhaliaeth o £107 yr wythnos yn ychwanegol ar gael os ydych yn byw mewn llety myfyrwyr neu eich cartref eich hun. Mae dyddiadau tymor yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly bydd cyfanswm y Benthyciad Cynhaliaeth ychwanegol sydd ar gael hefyd yn amrywio.

Lle mae incwm dros £39,796 wedi’i asesu, bydd y benthyciad ychwanegol ar gyfer yr wythnosau ychwanegol yn llai.

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhieni sengl dderbyn uchafswm y cymorth ychwanegol, fel arfer.

Costau byw yng Nghaerdydd 

Astudio blaenorol a meini prawf rhagor o ariannu 

Costau lleoliadau a chostau ychwanegol eraill 

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Myfyrwyr gyda phlant 

Myfyriwr mae oedolyn yn dibynnu arno 

Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel 

Dinasyddion Gwyddelig a myfyrwyr yr UE

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd fel myfyriwr israddedig amser llawn.

Os ydych chi wedi astudio ym maes addysg uwch cynt, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael rhagor o arian trwy Gyllid Myfyrwyr. Bydd eich cymhwysedd ar gyfer cyllid pellach yn dibynnu ar ble rydych chi fel arfer yn byw yn y DU.

Ar hyn o bryd nid yw myfyrwyr o Gymru sydd eisoes â gradd yn gymwys i wneud cais i ariannu cwrs gofal iechyd drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae myfyrwyr o Loegr sydd eisoes â gradd yn gymwys i wneud cais i ariannu cwrs gofal iechyd a restrir yn y rhagarweiniad drwy Student Finance England.

Os ydych yn dod o Ogledd Iwerddon neu'r Alban a'ch bod wedi astudio mewn addysg uwch o'r blaen, holwch eich awdurdod cyllido i weld a ydych yn gymwys i gael rhagor o arian.

Yn rhan o'ch cais trwy wefan Cyllid Myfyrwyr, rhaid nodi unrhyw astudio blaenorol ym maes addysg uwch.

Cysylltwch â Swyddfa Derbyn Myfyrwyr eich cwrs i holi am unrhyw gymorth a allai fod ar gael gyda chostau sy’n gysylltiedig â’ch cwrs, megis lleoliadau a gwisg unffurf.

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Ysgol Deintyddiaeth

Cewch chi gyflwyno cais am gymorth ar gyfer treuliau lleoliad trwy’ch ysgol.

Mae cymorth ar gyfer treuliau teithio i leoliad i’w bennu yn ôl pris taith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i’r fan lle y byddwch chi’n bwrw cyfnod ac yn ôl llai pris y daith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i Brifysgol Caerdydd ac yn ôl (eich taith arferol i’r Brifysgol).

Os bydd rhaid ichi dalu am lety wrth fwrw cyfnod, cewch chi ofyn am gymorth ar yr amod eich bod yn talu am lety lle rydych chi’n byw fel arfer yn ystod y tymor, hefyd.

Cewch chi ganllawiau am gyflwyno cais ar ôl i chi gofrestru.

Os oes angen cymorth dysgu arnoch chi ynglŷn ag anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir neu anhawster dysgu penodol, mae lwfans ar gyfer costau cysylltiedig cymorth o’r fath (heb ofyn i asesu’ch incwm na gofyn i’w ad-dalu).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Anabledd a Dyslecsia - studentconnect@caerdydd.ac.uk

Trwy wasanaeth Cyllid Myfyrwyr y dylech chi gyflwyno cais am y lwfans.

Mae’r GIG yn cynnig Lwfans Gofal Plant ar gyfer costau gofal plant cofrestredig. Mae’n cynnig 85% o wir gostau gofal plant hyd at uchafswm bob wythnos.

Mae Lwfans Dysgu Rhieni ar gael i roi peth arian ychwanegol i fyfyrwyr sy’n rhieni, hefyd.

Mae rhagor am y cymorth hwnnw ar wefannau Cyllid Myfyrwyr Cymru a Student Finance England (yn ôl lle rydych chi’n byw).

Bydd incwm net priod neu bartner yn gostwng y Grant Gofal Plant a Lwfans Dysgu Rhieni bunt am bunt ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw ran o’r incwm sydd i’w diystyru.

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhieni sengl dderbyn uchafswm y cymorth ychwanegol, fel arfer.

Cewch chi ofyn am Grant Dibynyddion o Oedolion os oes gyda chi gymar neu oedolyn arall, megis rhywun rydych chi’n gofalu amdano, sy’n dibynnu arnoch chi yn ariannol. Pennir y swm yn ôl asesiad o incwm eich cartref.

Ni fydd gan fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel hawl i dderbyn cymorth ariannol o Gyllid Myfyrwyr, fel arfer. Mae gan Ynysoedd y Sianel eu trefn ariannu eu hunain. Argymhellir y dylech chi gysylltu â swyddfeydd derbyn myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd neu Ysgol Deintyddiaeth i ymholi ynghylch proses cyflwyno’r cais am eich cwrs ac unrhyw gymorth y gallai’r ysgol ei gynnig ar gyfer costau perthnasol megis lleoliadau a gwisg unffurf.

Rhaid i fyfyrwyr yr UE sy'n dechrau cyrsiau ar 1 Awst 2021 neu ar ôl hynny feddu ar statws sefydlog neu cyn dod yn breswylydd yn y DU o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fod yn gymwys i gael statws ffioedd dysgu cartref y DU a gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu.

Mae dinasyddion Gwyddelig yn gymwys i gael statws ffioedd dysgu cartref yn y DU ac yn cael gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mynnu cymorth

Cysylltwch â'r Tîm dros Gynghori ac Arian ynglŷn ag unrhyw ymholiadau am ariannu’ch cwrs:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr