Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu’ch cwrs gofal iechyd

Ceir dau lwybr cyllido i fyfyrwyr gofal iechyd: Cyllid y GIG i'r rheini sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso, neu gyllid gan Gyllid Myfyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Bwrsariaeth y GIG yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024.

Bwrsariaeth y GIG

Mae arian y GIG ar gael fel arfer i'r myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso (2 flynedd ar gyfer gradd neu 18 mis ar gyfer diploma).

Arian Cyllid Myfyrwyr

Os ydych chi'n cynllunio i beidio ag ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl ymgymhwyso, mae'n dal yn bosib i chi astudio cwrs gofal iechyd yng Nghymru ac ymgeisio am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr.

Cyllid Meddygaeth a Llawdriniaeth Ddeintyddol llawn amser

Caiff blynyddoedd 1-4 eu cyllido drwy Cyllid Myfyrwyr, a chaiff y 5ed flwyddyn ei chyllido drwy'r GIG.

Dychwelyd i’ch gyrfa

Fel arfer, bydd bwrsariaeth ar gael trwy’r GIG i ymgeiswyr sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys ffioedd a grant cynhaliaeth o £1,000.

Cael cymorth

Cysylltwch â'r Tîm Cynghori ac Arian ynglŷn ag unrhyw ymholiadau am ariannu’ch cwrs:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr