Bwrsariaethau
Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau ariannol a rhai personol eraill effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i’r brifysgol.
Rydym yn cynnig ystod o fwrsariaethau i helpu gyda chostau astudio gyda ni.
Dyfarniad | Pwy allai fod yn gymwys? | Swm |
---|---|---|
Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd | Myfyrwyr israddedig amser llawn o aelwydydd incwm is sy'n gymwys i dderbyn cyllid y Deyrnas Unedig ar gyfer costau byw | £1,000 ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, £500 ym mhob blwyddyn ddilynol |
Bwrsariaeth Myfyrywr â Phrofiad Milwrol | Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog | £1,000 fesul blwyddyn academaidd |
Dyfarniad Cyfle i Geiswyr Lloches | Ceiswyr lloches neu blant ceiswyr lloches (mae dau ddyfarniad ar gael) | Costau ffioedd dysgu a grant o £4,000 y flwyddyn ar gyfer costau byw nad oes angen ei dalu yn ôl |
Bwrsariaeth wrth Adael Gofal | Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn sy'n gadael gofal | £1,000 fesul blwyddyn academaidd |
Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio | Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn sydd wedi ymddieithrio | £1,000 fesul blwyddyn academaidd |
Bwrsariaeth y Cam Nesaf | Myfyrwyr sydd wedi cwblhau Cynllun Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol, ac y mae incwm eu cartref yn llai na £35,000 | Naill ai gostyngiad o £1,000 oddi ar eich ffioedd llety ym Mhrifysgol Caerdydd neu fwrsariaeth deithio o £500 yn eich blwyddyn gyntaf |
Bwrsariaeth Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr | Gofalwyr sy'n oedolion ifanc israddedig ac ôl-raddedig amser llawn | £1,000 fesul blwyddyn academaidd |
Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau gyda ni, gwiriwch y fewnrwyd myfyrwyr am fanylion bwrsariaethau eich blwyddyn carfan.
Am ragor o fanylion ynghylch y dyfarniadau uchod, cysylltwch â:
Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau
Bwrsariaeth y GIG
Gallai myfyrwyr cartref sydd wedi eu cyllido yn y DU ar gyrsiau cymwys sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth cyllid statudol hon. Mae’n cwmpasu ffioedd dysgu llawn yn ogystal â £1000 y flwyddyn at gostau byw.

Finance Guide 2023 Welsh
Canllaw cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y DU.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ysgoloriaethau
Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau penodol, ac ar gyfer myfyrwyr sy’n ennill canlyniadau arholiadau rhagorol.