Ariannu ail radd (Blwyddyn 1-4)
Nid oes cyllid y GIG ar gael i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 1 i 4 ar y cwrs Meddygaeth A100 neu'r BDS Llawfeddygaeth Ddeintyddol.
Ffioedd dysgu
Bydd angen i chi eich hun dalu'r ffioedd dysgu am bedair blynedd gyntaf eich cwrs.
Help gyda chostau byw
Benthyciad myfyrwyr
Bydd myfyrwyr cartref yn gymwys ar gyfer y Benthyciad Cynhaliaeth. Bydd eich hawl i fenthyciad yn dibynnu ar ble roeddech yn byw cyn y cwrs, ac mae'n seiliedig ar asesiad incwm y cartref.
Dyma'r cyfraddau Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru a Lloegr am fyw i ffwrdd o gartref y rhieni.
Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru | Swm y flwyddyn |
---|---|
Nid yw'n cael ei asesu ar sail incwm | £10,720 |
Benthyciad Cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr | Mae’n cael ei asesu ar sail incwm |
---|---|
Uchafswm | £9,978 |
Isafswm | £4,651 |
Os ydych yn dod o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, gwiriwch yn uniongyrchol â'ch gwasanaeth cyllid myfyrwyr.
Plant a/neu oedolion sy'n ddibynnyddion
Mae cyllid ychwanegol ar gyfer plant gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant cofrestredig ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr. Mae yna hefyd grant ar gyfer dibynyddion sy’n oedolion. Mae'r gefnogaeth hon yn dibynnu ar incwm y partner neu’r priod os yw'n berthnasol. Bydd gan wefan y gwasanaeth cyllid myfyrwyr ragor o wybodaeth am y gefnogaeth hon i ddibynyddion.
Anghenion cefnogaeth dysgu ychwanegol
Os oes angen cymorth dysgu arnoch chi yn gysylltiedig ag anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir, neu anhawster dysgu penodol, mae lwfans ar gael nad yw'n seiliedig ar asesiad incwm ac nad oes rhaid ei ad-dalu a allai helpu gyda chostau cysylltiedig y cymorth hwn. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yw’r lwfans hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Anabledd a Dyslecsia yn studentconnect@caerdydd.ac.uk
Cyngor pellach
Os hoffech ragor o wybodaeth a chyngor am yr arian sydd ar gael cysylltwch â'r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr.