Ysgoloriaethau
Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau penodol, ac ar gyfer myfyrwyr sy’n ennill canlyniadau arholiadau rhagorol.
Dyfarniad | Pwy allai fod yn gymwys? | Swm |
---|---|---|
Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen gradd sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. | Mae swm y dyfarniad yn amrywio. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe yr Ysgol Peirianneg. | |
Myfyrwyr israddedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth. | Mae sawl ysgoloriaeth a dyfarniad gwahanol ar gael. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe yr Ysgol Cerddoriaeth. | |
Ysgoloriaeth Ysgol y Gymraeg (a adwaenir hefyd fel Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol) | Myfyrwyr israddedig sy’n dewis astudio’r Gymraeg gyda ni. | Mae tair ysgoloriaeth ar gael, a phob un yn werth £1,000. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe Ysgol y Gymraeg. |
Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg | Myfyrwyr israddedig sy'n astudio rhan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg | Hyd at £3,000 dros dair blynedd |
Bwrsariaethau
Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau ariannol a rhai personol eraill effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i’r brifysgol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig ystod o fwrsariaethau.

Finance Guide 2023 Welsh
Canllaw cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y DU.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: