Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol (BA)

Blwyddyn Mynediad


Datblygwch y sgiliau ieithyddol a phroffesiynol i sicrhau gyrfa ddiddorol ac i ddylanwadu ar ddyfodol gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y Gymru gyfoes.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Welsh students

Trosolwg y cwrs

Yn y Gymru gyfoes, gyda thwf sefydliadau megis Llywodraeth Cymru a chyflwyno Safonau’r Gymraeg, mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr. Yn yr un modd mae galw cynyddol am raddedigion â sgiliau a phrofiad galwedigaethol.

Nod y rhaglen gyffrous, gyfoes ac amrywiol hon i’ch helpu chi i ddatblygu’r sgiliau academaidd a chyflogadwyedd hanfodol hyn yn barod ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gwahanol.

Cynigir llwybr craidd penodol ac iddo ffocws galwedigaethol pendant a fydd yn meithrin ymwybyddiaeth a sgiliau priodol i’r gweithle proffesiynol ac i astudio maes y Gymraeg fel ei gilydd. Byddwn yn eich arfogi â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau perthnasol i’r byd gwaith ac i yrfaoedd penodol megis cyfieithu, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, addysg neu’r diwydiant treftadaeth, ond ceir hefyd bwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y rhain yn galluogi gweithlu i ddefnyddio’r Gymraeg ‘mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr’, ys dywedodd y Prif Weinidog wrth lansio gweledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym yn canolbwyntio ar agweddau megis y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, y gallu i ddadansoddi a dehongli’r byd o’ch cwmpas mewn modd beirniadol a chreadigol, creu testunau a dogfennau proffesiynol, a’r gallu i weithredu’n annibynnol ar lefel uchel. Y nod yw darparu sgiliau a phrofiadau academaidd a galwedigaethol ar lefel uchel, megis darllen, dehongli a chynhyrchu amrywiaeth o destunau, datrys problemau, creu strategaethau a gweithio fel unigolyn ac mewn tîm. Elfen bwysig o’r rhaglen yw’r cyfle i ymgymryd â chyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad ym Mlynyddoedd 2 a 3 er mwyn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillir mewn modd ymarferol i’r byd gwaith go iawn, ac i gael eich mentora gan ymarferydd allanol.

Nodweddion nodedig

  • Modiwlau craidd sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfle i ymgymryd â chyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad ym Mlynyddoedd 2 a 3 er mwyn cymhwyso eich dealltwriaeth a’ch sgiliau i’r byd gwaith go iawn.
  • Cyfle i gael Mentor o’r byd gwaith a fydd yn gallu rhoi cyngor ymarferol wrth ichi gwblhau profiadau gwaith a datblygu diddordebau yn ystod y cwrs.
  • Pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa.
  • Pwyslais a roddir ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol.
  • Ystod o fodiwlau dewisol, amrywiol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant ac sy’n cynnig cyfle i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb.
  • Cyfle i fod yn rhan o gymuned agos a chyfeillgar, gyda staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn.
  • Y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n gweithio ar brosiectau a meysydd ymchwil amrywiol, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil yn nisgyblaeth y Gymraeg.
Côd UCASQ561
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn

Creu pobl sy’n creu newid - rydym wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes

Gofynion mynediad

BBB – BBC gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (iaith gyntaf) neu Gymraeg (ail iaith).  Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Graddau DM yn Y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B ddisgwyliedig yn y Gymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Gymraeg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C. 

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r holl fodiwlau’n werth 20 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd (cyfanswm o 120 credyd) yn y Gymraeg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn 1 ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith, diwylliant a llenyddiaeth.

Rydym yn cynnig dau lwybr yn ystod y flwyddyn gyntaf – iaith gyntaf ac ail iaith - ac mae’r rhain yn ddibynnol ar eich profiad o’r Gymraeg yn yr ysgol neu mewn cyd-destun proffesiynol neu ar gyrsiau iaith penodol.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol
  • Mapio’r Cymry
  • Herio’r Traddodiad Llenyddol

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Y Gymraeg Heddiw
  • Astudio Testunau Llenyddol

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau dewisol yw:

  • Trafod Ein Llên
  • Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol

Ar y ddau lwybr, addysgir pob modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Trafod ein llênCY151020 credydau
Cymraeg Creadigol a PhroffesiynolCY151120 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Herio'r Traddodiad LlenyddolCY160320 credydau
Mapio'r CymryCY175220 credydau
Ysgrifennu Creadigol a PhroffesiynolCY175320 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd llwybr 40 credyd craidd yn canolbwyntio ar agweddau galwedigaethol a datblygu sgiliau academaidd a sgiliau ar gyfer y gweithle. Bydd y modiwl Yr Iaith ar Waith yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith ar leoliad mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Y modiwlau craidd yw:

  • Yr Iaith ar Waith
  • Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith (caiff y modiwlau hyn eu rhedeg bob yn ail flwyddyn)

Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn llwybr ail iaith yn y flwyddyn gyntaf, y modiwlau craidd yw:

  • Yr Iaith ar Waith
  • Sgiliau Academaidd Uwch
  • Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith (caiff y modiwlau hyn eu rhedeg bob yn ail flwyddyn)

Mae modiwlau blwyddyn dau a blwyddyn tri yn cynnig cyfle ichi ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol fydd yn berthnasol ar gyfer ystod o yrfaoedd neu astudiaethau ôl-raddedig.

Fel arfer mae modiwlau dewisol unigol yn cael eu cynnig bob yn ail flwyddyn, ac felly gallant fod ar gael ym Mlwyddyn 2 neu ym Mlwyddyn 3.

Gall myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn ddewis hyd at 40 credyd o Ysgol Academaidd arall, wedi eu dewis o Gasgliad Modiwlau Annibynnol y Brifysgol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY210520 credydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 credydau
SgriptioCY270020 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 credydau
Caffael IaithCY291020 credydau

Blwyddyn tri

Bydd y modiwlau craidd unwaith eto yn rhoi pwyslais ar agweddau galwedigaethol yng nghyd-destun y Gymraeg. Y modiwlau craidd yw:

  • Ymchwilio Proffesiynol
  • Cyfieithu Proffesiynol
  • Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith
  • Cyfieithu Proffesiynol

(caiff y modiwlau hyn eu rhedeg bob yn ail flwyddyn)

Bydd y modiwl Ymchwilio Proffesiynol yn rhoi cyfle ichi gynhyrchu naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau, o dan gyfarwyddyd aelod o staff arbenigol. Byddwch yn rhoi ar waith y sgiliau a ddatblygwyd eisoes drwy gyflawni cyfnod pellach o brofiad gwaith ar leoliad mewn gweithle perthnasol i’r maes. Mae’r modiwl Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle ichi drafod egwyddorion ac ymarfer sgiliau drwy dderbyn cyfarwyddyd ac adborth ar gyfieithiadau ymarferol. Gall hyn fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol neu arwain at ymchwil pellach. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau o blith modiwlau arbenigol yr Ysgol.

Un o nodweddion deniadol ein cwrs yw ei hyblygrwydd – cewch ddilyn llwybr llenyddol, llwybr ieithyddol a chymdeithasegol ynghyd â dewis o blith modiwlau ymarferol a chreadigol amrywiol. - , Cewch hefyd ddewis cyfuniad o fodiwlau sy'n adlewyrchu eich diddordebau academaidd penodol a’ch anghenion galwedigaethol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Ymchwilio ProffesiynolCY400020 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY310520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
SgriptioCY370020 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd megis gweithio mewn tîm, ymchwilio yn annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y gweithdai a’r seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae’r gweithdai a’r seminarau’n rhoi cyfle ymarferol ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd a chyflawni tasgau amrywiol.

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r Rhaglen hon, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth, ynghyd â ‘sgiliau academaidd a chyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • adfyfyrio ar eich prosesau academaidd a dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Sut y caf fy nghefnogi?

Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn dilyn Rhaglen Tiwtora Personol Ysgol y Gymraeg, a fydd yn golygu cwrdd yn gyson â’ch tiwtor personol (bob pythefnos yn ystod y semester cyntaf) yn unigol ac fel grŵp. Bydd y sesiynau hyn yn cyflwyno gwybodaeth bwysig ichi am agweddau penodol ar eich astudiaethau, ac yn cynnig cyfle i drafod eich profiadau fel myfyriwr, e.e. dysgu ac asesu, cyflogadwyedd, amgylchiadau esgusodol, arfer annheg, ayb. Bydd rhaglen yr ail semester yn cynnwys cyfarfod penodol ar gyflogadwyedd a llwybr gyrfa, lle bydd cyfle i drafod eich diddordebau o ran rhaglenni’r Ysgol a’i modiwlau.

Bydd y cyfarfod hwn yn rhagflaenu diwrnod Blaengofrestru’r Ysgol (tua diwedd Semester y Gwanwyn), lle bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 1 a 2 yn cwrdd â’u tiwtor personol er mwyn ystyried eich dewisiadau modiwlau ar gyfer y flwyddyn ddilynol, a chael cyngor arnynt. Cyn mynychu’r cyfarfod â’ch tiwtor personol byddwch wedi derbyn adnodd ddigidol oddi wrth arweinwyr modiwlau dewisol yr Ysgol sy’n cynnwys cyflwyniad byr i’r modiwlau a gwybodaeth bwysig yn eu cylch. Bydd cyfle ar ddiwrnod Blaengofrestru’r Ysgol ichi drafod a chodi unrhyw gwestiynau i arweinwyr y modiwlau mewn sesiwn ‘holi ac ateb’ benodol.

Bydd y tiwtor personol yn cadw cofnod ar system SIMS o unrhyw gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn er mwyn hwyluso’r broses o gynghori. Wrth gwrs, mae croeso i fyfyrwyr gysylltu â’u tiwtor personol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn academaidd os ydynt am dderbyn cyngor am fodiwl neu os ydynt am ystyried opsiynau o safbwynt trosglwyddo rhwng rhaglenni.

Byddwch yn ogystal yn mynychu cyfarfod penodol bob semester yn rhan o Wythnos Adborth a Chyngor Academaidd Ysgol y Gymraeg. Nod y cyfarfodydd unigol hyn â’ch tiwtor personol fydd adolygu ac adfyfyrio ar farciau asesiadau, a’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y Semester blaenorol. Mae’n gyfle da i ystyried eich cryfderau a’r mannau hynny sydd angen eu datblygu, ynghyd â gosod targedau pendant ar gyfer gwella eich gwaith a’ch prosesau academaidd.

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos astudio annibynnol bob semester ar gyfer astudio o dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a chanolfannau llyfrgelloedd ac adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Defnyddir asesiadau unigol ac asesiadau lle byddwch yn gweithio fel grŵp a gaiff eu marcio gan y tiwtor. Ar gyfer y cyflwyniad grŵp byddwch yn cael eich marcio ar sail cyfuniad o farc cyflwyniad grŵp a chyfraniad unigol. Bydd y ddwy elfen hyn wedi eu pwysoli fel a ganlyn o ran marc yr asesiad:

  • Marc grŵp ar gyfer y cyflwyniad – 40%
  • Marc unigol ar gyfer y cyflwyniad – 60%

Bydd y marciwr yn ystyried y cynnyrch a’r broses lle bo hynny’n ystyrlon o safbwynt deilliannau’r modiwl (e.e. gall y bydd rhagor o bwyslais ar y cynnyrch o safbwynt modiwlau ail iaith Blwyddyn 1 lle pennir y marc ar sail iaith a mynegiant). Bydd y marciwr yn gwneud defnydd o gofnodion cyfarfodydd grŵp ac arsylwi yn y dosbarth er mwyn hwyluso’r elfen hon.

Bydd asesiadau Cyflwyniadau llafar (unigol a grŵp) wedi eu seilio ar feini prawf penodol sy’n seiliedig ar ddeilliannau’r modiwl, a bydd arweinwyr modiwlau yn cynnig canllawiau eglur o safbwynt cyfrifoldebau myfyrwyr, ac yn cynnig cyfleoedd i grwpiau ymarfer gweithio mewn grŵp a chyflwyno ar lafar.

Mae modiwl traethawd neu brosiect y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau ar dasgau ffurfiannol a chrynodol (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth unigol ar arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

Mae'r canlyniadau dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl. 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o safle a phwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle cyfoes
  • dangos dealltwriaeth dda o ddatblygiad y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn gwahanol gyfnodau, o safbwynt ieithyddol, llenyddol a chymdeithasol, a dealltwriaeth o rai dulliau cyfoes o geisio ei hadfer a’i hyrwyddo
  • dangos dealltwriaeth o ystod o destunau o wahanol gyfnodau hanesyddol ac o wahanol genres

Sgiliau Deallusol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • arddangos sgiliau deallusol, ymarferol a phroffesiynol sy’n caniatáu darllen agos, disgrifio, dadansoddi, a chynhyrchu testunau o wahanol fathau (gan gynnwys cynhyrchu testunau creadigol)
  • dadansoddi rôl greiddiol iaith yn y broses o greu ystyr, a’r gallu i werthfawrogi grym affeithiol iaith
  • gwerthfawrogi sut y mae rhagdybiaethau diwylliannol yn effeithio ar y broses o lunio barn
  • gwerthuso testunau, cysyniadau a theorïau perthnasol i faes y Gymraeg a’i llenyddiaeth yn feirniadol, a’u trafod gan ddefnyddio’r eirfa a therminoleg briodol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • datblygu sgiliau mewn ystod addas o gyd-destunau proffesiynol er mwyn cynhyrchu Cymraeg ysgrifenedig safonol a Chymraeg llafar safonol
  • rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a feithrinwyd ar waith:
    • yn y gweithle, drwy gwblhau cyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad sy’n berthnasol i’r radd
    • drwy adfyfyrio ar y profiadau hyn, gan gynnwys llunio dadansoddiad beirniadol o gyfnod o brofiad gwaith ar leoliad
    • drwy gwblhau traethawd neu brosiect estynedig sy’n berthnasol i lwybr arbenigol y radd ac sy’n gynnyrch astudio annibynnol dan gyfarwyddyd tiwtor

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • defnyddio cyweiriau ieithyddol eraill, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn cyd-destunau perthnasol i’r gweithle ac yn ehangach
  • rhoi sgiliau rhifedd ar waith wrth ddadansoddi data sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth
  • defnyddio technoleg gwybodaeth i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau mewn dull effeithiol a graenus, gan gynnwys defnyddio meddalwedd i wirio a gloywi iaith

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd ym maes y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall.

Yn 2016/17, roedd 91% o raddedigion yr Ysgol mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Swyddi

  • Cyfryngau
  • Gwasanaeth Sifil
  • Addysg
  • Gwleidyddiaeth
  • Gweinyddiaeth

Lleoliadau

Mae Blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith ar leoliad mewn gweithle perthnasol i ddisgyblaeth y Gymraeg (hyd at 35 awr yn achos ‘Yr Iaith ar Waith’ (Blwyddyn 2) ac isafswm o 35 awr yn achos ‘Ymchwilio Proffesiynol’ (Blwyddyn 3)). Mae’r cyfnodau hyn o brofiad gwaith yn rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Mae ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith ar leoliad yn rhoi cyfle gwerthfawr ichi gymhwyso ac ymarfer yr wybodaeth a’r sgiliau yr ydych eisoes wedi eu hennill. Y mae yn ogystal yn gyfle gwych ichi gael profiad ymarferol o’r byd gwaith, i ddatblygu sgiliau newydd ac i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.

Mae gan yr Ysgol gysylltiadau â nifer o gyflogwyr yng Nghaerdydd a’r cylch (boed sefydliadau, cwmnïau neu ysgolion), a byddwn yn defnyddio ein cysylltiadau a’n partneriaethau i gynnig profiadau defnyddiol ac ystyrlon ichi fel myfyrwyr. Mae’r rhestr isod yn nodi rhai o’r lleoliadau (yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector) sydd wedi cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg:

Amgueddfa Cymru (Caerdydd a Sain Ffagan)

Archifdy Morgannwg

BBC Cymru

CBAC

Comisiynydd y Gymraeg

Cwmni Cambrensis

Cwmni Cyfieithu Prysg

Cyngor Caerdydd

Green Bay

Gwasg Prifysgol Cymru

Llenyddiaeth Cymru

Menter Caerdydd

Plaid Cymru

S4C

Swyddfa Swyddog y Gymraeg, Coleg y Cymoedd

Uned Gyfieithu Llywodraeth Cymru

Uned Gyfieithu Prifysgol Caerdydd

Urdd Gobaith Cymru

Yr Hen Lyfrgell

ysgolion uwchradd a chynradd yn ardal Caerdydd

Dylid nodi mai rhestr gynrychioliadol yw hon, ac nad yw’n dangos yr union leoliadau a fydd ar gael bob blwyddyn

Byddwch yn derbyn ffurflen datgan diddordeb yn ystod diwrnod Blaengofrestru yr Ysgol (tua diwedd eich blwyddyn gyntaf), ynghyd â chael cyfle i dderbyn cyngor ar leoliadau posibl gan eich tiwtor personol. Bydd yr Ysgol yn gofyn ichi ddychwelyd y ffurflen ynghyd â CV erbyn diwedd Semester y Gwanwyn.

Bydd yr Ysgol yn mynd ati i oruchwylio’r broses o ganfod profiad gwaith drwy sicrhau bod y lleoliad yn addas yng nghyd-destun cyflawni deilliannau’r modiwl, ynghyd â sicrhau bod gwiriadau iechyd a diogelwch yn cael eu cwblhau. Bydd yr Ysgol yn trefnu unrhyw wiriadau DBS a fydd eu hangen (os byddwch yn mynychu ysgol, er enghraifft). Ysgol y Gymraeg fydd yn gyfrifol am dalu am y gwiriadau hyn yn ogystal. Os bydd gennych gyswllt penodol â lleoliad y tu hwnt i Gaerdydd, bydd yr Ysgol yn ystyried addasrwydd y lleoliad fesul cais unigol.

Cewch yn ogystal lawlyfr ‘Ymgymryd â phrofiad gwaith ar leoliad’ a fydd yn cynnwys manylion a gwybodaeth baratoadol ynglŷn â’r cyfnod o brofiad gwaith, ynghyd â nodi eich cyfrifoldebau chi pan fyddwch ar leoliad (bydd yr Ysgol yn cyflwyno llawlyfr i’r cyflogwyr hefyd er mwyn sicrhau eu bod hwythau yn ymwybodol o’r broses a’u cyfrifoldebau). Bydd tiwtoriaid y modiwlau craidd, ynghyd â’ch tiwtor personol, wrth law i gynnig cyngor ichi ar y broses ac ymateb i unrhyw broblemau a all godi yn ystod eich cyfnod ar leoliad.

Er na fyddwch yn derbyn tâl na chostau ynghlwm wrth y profiad gwaith, gall ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith ar leoliad olygu creu cysylltiadau gwerthfawr yn y gweithle yng Nghymru, ac mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ennill swyddi yn y sefydliadau hynny, neu rai cyffelyb, maes o law.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais