Ewch i’r prif gynnwys

Ceiswyr lloches

Students from the STAR society at the Refugee Rhythm event
Myfyrwyr o gymdeithas STAR yn y digwyddiad Refugee Rhythm. Llun gan Noah

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i Geiswyr Lloches, Ffoaduriaid a phobl eraill sy'n ceisio Noddfa yn y DU.

Mae Caerdydd yn croesawu pobl sy'n ceisio diogelwch. Mae am greu teimlad o gynhwysiant drwy annog pobl i dderbyn diwylliant, sgiliau a gwahaniaethau ac rydym yn cefnogi hyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn y broses o geisio statws Prifysgol Noddfa, menter sy'n cydnabod arferion da prifysgolion o ran croesawu, cefnogi a grymuso pobl sy'n chwilio am noddfa. Ein nod yw denu a recriwtio myfyrwyr â photensial academaidd, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad personol.

Ydy'r gefnogaeth hon ar eich cyfer chi?

Mae nifer o wahanol opsiynau statws swyddogol. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi trosolwg syml a chewch hyd i fanylion pellach ar Wefan Fisâu a Mewnfudo'r DU.

  • Ceisiwr Lloches: rydych chi'n gwneud cais am loches, neu rydych chi'n aros am benderfyniad gan lywodraeth y DU.
  • Ffoadur: rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU ac wedi derbyn statws 'ffoadur' swyddogol. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Diogelwch Dyngarol: mae gennych ganiatâd i aros yn y DU am resymau dyngarol. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Caniatâd cyfyngedig i aros (LLR) neu ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros (DLR): rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU dros dro. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.

Gwneud cais i ymgymryd â chwrs

Bydd mynd i un o Ddiwrnodau Agored Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r cyfle i chi siarad â myfyrwyr a staff ac ymweld â gwahanol rannau o'r Brifysgol. Gallwch hefyd gael gwybodaeth bwysig am lety, cyllid myfyrwyr a darpariaeth arall o ran cymorth i fyfyrwyr drwy siarad yn anffurfiol â'n staff proffesiynol.

Pan fyddwch yn gwneud cais i fynd i brifysgol drwy UCAS cewch gyfle i ddatgelu eich bod yn geisiwr lloches neu'n ffoadur. Byddem yn eich annog i roi tic ie ar gyfer y cwestiwn hwn er mwyn i ni allu cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ynghylch y cymorth sydd ar gael i chi. Mae UCAS hefyd yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad a chanllaw ynghylch ysgrifennu eich datganiad personol.

Os nad ydych yn barod eto ar gyfer addysg ar lefel prifysgol, edrychwch ar y cymorth sydd ar gael gan Dîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd. Mae’n cynnig cyrsiau cymunedol achrededig ar Lefel 3 yn rhad ac am ddim ledled Caerdydd mewn partneriaeth â Campws Cyntaf a'r adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Cysylltwch â nhw drwy ebostio outreach@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02920 870020.

Mae’r tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus hefyd yn cynnig cyrsiau annibynnol ar Lefelau 4 a 5, yn ogystal â Llwybrau at Radd. Cysylltwch â nhw yn outreach@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch nhw ar 02920 870000.

Cyllid

Gan eich bod yn geisiwr lloches, cewch eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol, a bydd eich ffioedd cychwynnol yr un fath â ffioedd myfyrwyr rhyngwladol. Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad mewn ffioedd dysgu (hepgor ffioedd dysgu), a phob blwyddyn, rhoddir Dyfarniad Cyfle i ddau ymgeisydd llwyddiannus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cymorth Ariannol i Geiswyr Lloches.

Gan eich bod yn ffoadur sy'n byw yn y DU byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr cartref a gallech fod yn gymwys i gael cyllid gan Cyllid Myfyrwyr yn dibynnu ar eich statws preswylio. Mae Cyllid Myfyrwyr Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn rhestru'r meini prawf preswylio ac i bwy y maent yn berthnasol ar eu tudalennau gwe. Mae rhagor o wybodaeth am ba gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr cartref ar gael ar ein tudalennau gwe ynghylch ariannu.

Cymorth Pontio

Mae'n bwysig i ni fod eich proses pontio i'r brifysgol yn haws o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad mewn perthynas ag unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i chi ddechrau ac ar ôl hynny.

Mae ein Tîm Allgymorth yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Darllenwch eu tudalennau cymryd rhan i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt.

Os ydych wedi ticio'r blwch yn UCAS, bydd ein cyswllt penodol mewn cysylltiad i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn dechrau'r cwrs a gall eich cyfeirio at wasanaethau yn y Brifysgol y gallech fod eu hangen.

Cymorth tra byddwch yn astudio

Ein nod yw meithrin profiad rhagorol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr. Meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb.

Lena Smith yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau:

  • cymorth wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr a grantiau a bwrsariaethau amgen
  • cymorth o ran materion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o sut i wneud cais am amgylchiadau esgusodol os oes angen
  • cymorth o ran unrhyw faterion tai.
  • cyfeirio at dimau prifysgol eraill megis cefnogi myfyrwyr sydd ag anabledd, cyngor ar iechyd a lles neu ddatblygu sgiliau astudio academaidd
  • cynnal digwyddiadau a gweithgareddau a bod ar gael i siarad â myfyrwyr fel bo’r angen.

Gallwch gysylltu â Kathryn drwy Gyswllt Myfyrwyr drwy ebostio studentconnect@caerdydd.ac.uk

Cymorth pwrpasol arall

Rydym hefyd yn cynnig cymorth a gwybodaeth benodol arall yn ychwanegol i’r cymorth bywyd myfyrwyr cyffredinol sydd ar gael i bob myfyriwr.

Kathryn Lock yw'r enw cyswllt penodedig ar gyfer myfyrwyr sy’n ceisio lloches a hoffai wybod rhagor am gael gafael ar gymorth cwnsela a lles yma. Kathryn yw’r enw cyswllt cyntaf yn achos myfyrwyr sydd â chwestiynau ynghylch cael gafael ar gymorth o ran eu hiechyd meddwl a'u lles.

Dyma rai o'r pethau y gallwn ni helpu yn eu cylch:

  • esbonio'r cymorth sydd ar gael yn y gwasanaeth cwnsela, iechyd a lles
  • eich tywys drwy gyrchu adnoddau cymorth ar-lein
  • eich helpu i lenwi'ch cais am gwnsela a lles os oes angen
  • eich cyfeirio at asiantaethau cymorth allanol os ydyn nhw ar gael
  • cyrchu cwnsela trawma arbenigol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau Iechyd a Lles ar ein tudalennau gwe pwrpasol.

Gallwch gysylltu â Kathryn drwy Gyswllt Myfyrwyr drwy ebostiostudentconnect@caerdydd.ac.uk

Mae Gweithredu Myfyrwyr dros Ffoaduriaid yn gymdeithas myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i groesawu ffoaduriaid a sefyll dros hawliau dynol. Mae STAR Caerdydd yn ymgyrchu, yn codi arian ac yn gwirfoddoli. Un o'u hymgyrchoedd yw ennill statws Prifysgol Noddfa, sef menter i wreiddio diwylliant o groeso ar gyfer y rheiny sy'n ceisio lloches ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae lleisiau’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn hanfodol yn y broses hon. Cysylltwch â STAR os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn. Gallwch chi ymuno â grŵp Facebook STAR Caerdydd neu ymuno â grŵp Gwirfoddoli Myfyrwyr STAR Caerdydd ar Facebook.

Os bydd unrhyw newidiadau i'ch statws tra byddwch yn astudio, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus tra byddwch yn astudio yn y Brifysgol, bydd eich statws yn newid i ‘myfyriwr cartref’, a fydd yn effeithiol o'r flwyddyn academaidd ganlynol. Ni fyddai angen gostyngiad mewn ffioedd dysgu arnoch mwyach.

Byddai hyn yn wir am y rhai:

  • y rhoddwyd statws ffoadur iddynt
  • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol
  • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros
  • y mae eu rhieni, eu priod neu eu partner sifil yn cael eu cydnabod yn ffoadur gan Lywodraeth y DU
  • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol
  • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros ac sy’n bodloni'r 'amod teuluol' ar ddyddiad cais yr aelod o’r teulu am loches

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyros cewch ganlyniad cadarnhaol ar ôl cyflwyno cais am loches. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod

Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod tra byddwch yn astudio yn y brifysgol:

  • cewch eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol o hyd
  • bydd y gostyngiad mewn ffioedd dysgu’n dod i ben yn y flwyddyn academaidd ganlynol, a bydd angen i chi dalu’r gyfradd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
  • bydd y terfyn amser ar unrhyw Fisa neu Ganiatâd i Aros yn cael ei fonitro a'i gymhwyso'n unol â rheoliadau'r Swyddfa Gartref.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau wrth raddio rydym yn cynnig pecyn i geiswyr lloches sydd wedi derbyn cefnogaeth gennym ni. Mae ein pecyn presennol yn cynnwys talu cost hurio’r wisg raddio.

Ar ôl graddio gallwch wneud cais am neuaddau campws ar gyfer yr haf tan 1 Medi i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gynllunio eich camau nesaf.

Gall ein Tîm Dyfodol Myfyrwyr ddarparu cymorth hyd at 3 blynedd ar ôl graddio gan gefnogi eich camau nesaf ar ôl y Brifysgol.

Mae perthynas gyda ni am oes a gallwch chi aros yn gysylltiedig â'r brifysgol a bod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o Gynfyfyrwyr.

Dolenni defnyddiol:

Mewnol

Allanol

Cysylltwch â ni

Cyswllt Myfyrwyr