Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi dysgu

Gydag 1.3m o lyfrau, rhwydwaith TG cyflym a diwifr, cyfleusterau astudio pwrpasol, rydym yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gefnogi eich dysgu.

Sgiliau astudio academaidd

Bydd astudio yn y brifysgol yn ymddangos yn dipyn o newid byd, hwyrach. Neu, efallai mai dim ond gloywi eich sgiliau sydd ei angen ar ôl peth amser i ffwrdd. Pa ffordd bynnag, mae’r Tîm Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora’n cynnig cymorth rhad ac am ddim drwy gydol eich amser yn y brifysgol i’ch helpu i lwyddo.

Llyfrgelloedd

Gyda thros 3,000 o fannau astudio mewn llyfrgelloedd ac ystafelloedd TG cyfleus a mynediad Wi-Fi eang, mae man astudio cyfforddus ar garreg y drws.

Gwasanaethau TG

Ystafelloedd cyfrifiaduron a Wi-Fi ar y ddau gampws, yn ogystal â chlinigau TG, gwasanaethau gwerthu, llogi a thrwsio cyfrifiaduron a mwy

Cyfleusterau ôl-raddedig

Yn cefnogi ein Hysgolion Academaidd drwy gynnig adnoddau ychwanegol o gyfleusterau astudio a chymdeithasol, yn ogystal â gweithdai a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr.