Prifysgol noddfa

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein prifysgol yn lle diogel a chroesawgar ar gyfer ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches.
Mae ein campws yn cynnig diwylliant amrywiol a gwirioneddol ryngwladol sy'n denu'r myfyrwyr a'r staff gorau o bob cwr o'r byd. Mae mwy na 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 100 o wledydd bellach yn galw Caerdydd yn gartref iddyn nhw.
Rydyn ni wrthi’n dilyn statws Prifysgol Noddfa, sef cynllun sy'n cydnabod arferion da prifysgolion wrth groesawu, cefnogi a grymuso pobl sy'n ceisio noddfa.
Mae'r statws hwn yn hybu diwylliant o groeso, ac yn dod â gwaith presennol at ei gilydd i gefnogi ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches, yn ogystal â datblygu cymorth i bobl sydd bellach wedi'u dadleoli.
Mae ein gweithgor ar y Brifysgol Noddfa yn cynnwys myfyrwyr a staff sy'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ein gwaith presennol yn y maes hwn. Bydd y grŵp yn parhau i gwrdd unwaith y bydd y cais wedi’i gyflwyno, gan sicrhau ein bod yn parhau â chynlluniau i ddatblygu ein cymorth i bobl sy’n ceisio noddfa.
Isod mae rhai o'r cynlluniau cysylltiedig y byddwn ni’n tynnu sylw atyn nhw yn ein cais am statws Prifysgol Noddfa.
Gwobr cyfle ceiswyr lloches
Gwyddom nad yw ceiswyr lloches a phlant ceiswyr lloches yn aml yn gallu cael mynediad at gyllid myfyrwyr prif ffrwd y DU.
Mae ein Gwobr Cyfle Ceiswyr Lloches yn talu costau ffioedd dysgu ac yn darparu grant nad oes rhaid ei ad-dalu o £4,000 y flwyddyn i gefnogi costau byw. Bob blwyddyn rhoddir y wobr i ddau fyfyriwr israddedig sydd â chynnig diamod neu amodol i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn derbyn ceisiadau gan y rheini sydd naill ai’n geiswyr lloches neu’n blant i geiswyr lloches.
Cefnogi bywyd myfyriwr
Mae gennym aelodau penodol o staff yn y gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr fydd yn rhoi cyngor arbenigol a chymorth cwnsela. Mae'r staff yn gweithio yng nghyfleuster newydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Caplaniaeth, ffydd a chrefydd
Rydym yn darparu lle ar gyfer cyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddi, cefnogaeth a deialog, gan gynnig cyfleoedd i chi ymgysylltu’n gymdeithasol ac archwilio ffydd ac ysbrydolrwydd. Cwrdd â'n caplaniaid.
Ehangu cyfranogiad ac allgymorth
Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni a digwyddiadau allgymorth sydd wedi'u cynllunio i chwalu'r rhwystrau i addysg uwch ac i'ch cefnogi ar hyd eich taith addysgol. Rydyn ni yma i gefnogi eich taith i'r brifysgol.
Ein rôl yw hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gefnogi myfyrwyr o grwpiau penodol i gael mynediad i brifysgol a pharatoi ar ei chyfer. Rydym yn cydnabod y manteision y gall cymuned o fyfyrwyr amrywiol a thalentog eu cynnig.
Gallwn gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi ar gyfer eich cais prifysgol, ac awgrymiadau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol.
Darllenwch ragor am ein strategaeth ehangu cyfranogiad sy'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant croeso.
Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA)
Gellir olrhain ein hanes hir o gefnogi ffoaduriaid yr holl ffordd yn ôl i 1914 pan gyrhaeddodd grŵp o 300 o ffoaduriaid o Wlad Belg Gaerdydd. Mae ein harchifau sefydliadol yn dangos bod staff yr Adran Addysg wedi rhoi addysg, cyflenwadau, a hyd yn oed barti Nadolig i’r plant a wnaeth y ddinas yn briod gartref iddyn nhw – ac mae llawer yn byw gyda thrigolion lleol.
Heddiw rydyn ni’n falch o roi cefnogaeth hirsefydlog i'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA). Mae ein gwaith yn parhau drwy eu Cymrodoriaethau Ymchwilwyr mewn Perygl, sy’n cael eu trefnu ar y cyd ag Academïau Cenedlaethol y DU.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fyfyrwyr a allai fod yn geiswyr lloches.