Cyngor ac arian
Rydym yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol ac ymarferol yn rhad ac am ddim ar gyllid ac agweddau eraill ar eich bywyd myfyriwr.
Cysylltwch â ni os hoffech gael cyngor ar:
- ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr y DU
- cyllidebu personol
- benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau
- cyllid ar gyfer astudiaethau amser llawn neu ran-amser, gan gynnwys cyllid y GIG. Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch cyllid, gallwn ni helpu
- deall eich hawl fel myfyriwr, os ydych yn/wedi hawlio budd-daliadau lles cyn dod i'r Brifysgol
- dewis llety a delio ag unrhyw broblemau gyda'ch llety
- materion academaidd fel cymryd amser i ffwrdd o'ch cwrs neu drosglwyddo i gwrs gwahanol, a goblygiadau ariannol y penderfyniadau hyn
- cefnogaeth bwrpasol os ydych wedi bod mewn gofal, wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu, yn fyfyrwyr sy'n ofalwr neu'n gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Cysylltwch â ni
I gael cymorth gydag ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu gyllidebu personol, cysylltwch â:
Bursaries, Scholarships and Money Team
I gael cymorth gyda benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau, cysylltwch â:
US Federal Loans
Ar gyfer ymholiadau cyllid neu gyngor myfyrwyr eraill, cysylltwch â:
Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr
Press option 5 when calling.
Nodwch ein bod wedi atal ein hapwyntiadau wyneb yn wyneb oherwydd Pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Gallwn drefnu apwyntiadau ffôn neu fideo gydag ymgynghorydd fel dewis arall.