Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth i fyfyrwyr anabl

Os ydych chi'n fyfyriwr anabl, hwyrach y bydd ychydig yn fwy i feddwl amdano wrth fynd i'r brifysgol. Rydyn ni yma i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth gywir er mwyn ichi allu manteisio ar bob agwedd ar eich astudiaethau.

Efallai eich bod yn ystyried eich hun yn anabl neu efallai y byddai’n well gennych beidio â defnyddio labeli. Beth bynnag sy’n wir yn eich achos chi, mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnoch chi.

Rydyn ni’n gweithio gyda myfyrwyr sydd ag ystod o anableddau, yn rhai corfforol a synhwyraidd, yn ogystal â’r rheiny sydd ag anawsterau dysgu penodol, cyflyrau ar hyd sbectrwm awtistiaeth, cyflyrau meddygol hirdymor a chyflyrau iechyd meddwl.

people

Addasiadau a Chymorth

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r addasiadau a'r gefnogaeth orau fydd yn cyd-fynd â'ch ysgol academaidd.

star

Lwfans Myfyrwyr Anabl

Rydyn ni’n cynnig cyngor am gyllid ac os ydych chi’n fyfyriwr y DU efallai y bydd gennych chi’r hawl i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) sy'n helpu i dalu cost eich cymorth anabledd.

notepad

Trefniadau Mynediad i Arholiadau

Gellir rhoi trefniadau ar waith i sicrhau y gallwch chi gael eich asesu mewn ffordd deg a chyfartal.

Rydyn ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, a’n gwaith yw eich cefnogi drwy gydol yr amser y byddwch chi’n fyfyriwr, gan sicrhau eich bod yn gallu cael cyngor ac arweiniad yn ogystal â’r addasiadau a’r cymorth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu yn eich astudiaethau.

Unwaith y byddwch chi wedi cael cynnig lle ar gwrs, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn inni allu eich helpu gyda'ch cyfnod o bontio i fywyd prifysgol.

"Roedden nhw’n gymorth imi o ran deall fy nyslecsia a rhoi'r offer a'r technegau imi ymdopi ag ef.”
Myfyriwr, Prifysgol Caerdydd

Yma i'ch cefnogi chi

Library students

Ein nod yw eich galluogi i astudio mor annibynnol â phosibl a chreu cymuned dysgu cynhwysol. Rydyn ni’n cynnig cyngor a chymorth sy’n gallu cynnwys:

  • trefniadau hygyrch ar gyfer arholiadau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i amser ychwanegol, defnyddio offer ergonomig a seibiannau gorffwys
  • cymorth i adnabod, gwneud cais ar gyfer addasiadau rhesymol, a'u rhoi ar waith.
  • gwasanaethau arbenigol megis sgiliau astudio arbenigol, mentora iechyd meddwl a gwasanaethau gweithwyr cymorth
  • cyngor a chymorth ariannu ar Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i fyfyrwyr cartref.
  • Digwyddiad pontio ar gyfer myfyrwyr â chyflyrau ar hyd y Sbectrwm Awtistiaeth

“Rwy'n cael y gwasanaeth yn un cyfeillgar iawn a fydd neb yn eich barnu.”
Myfyriwr, Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â ni

Er mwyn helpu i sicrhau bod eich cyfnod pontio i'r brifysgol mor llyfn â phosibl, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch i drafod addasiadau posibl.

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)