Tîm Bywyd Preswylfeydd
Gwyliwch fideo am sut gall y Tîm Bywyd Preswylfeydd eich helpu i ymgartrefu ym mywyd y Brifysgol.
Mae’r Tîm Bywyd Preswylfeydd yn ymrwymedig i wella eich profiad myfyrwyr. Yn helpu i greu cymuned o fewn preswylfeydd lle rydych yn teimlo ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant.
Mae Cydlynwyr Bywyd Preswylfeydd a Chynorthwywyr Bywyd Preswylfeydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chefnogi a Lles Myfyrwyr, Rheoli Preswylfeydd a’ch Undeb Myfyrwyr.
Mae’r tîm yn eich annog i rannu eich profiadau a chael mynediad at wasanaethau cefnogi safonol i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch bywyd myfyrwyr a chyflawni eich nodau a dyheadau personol.
Dewch o hyd i ni ar Instagram a gweld dros eich hun sut rydym yn cefnogi myfyrwyr mewn llety'r Brifysgol.
Eich amser ym mhreswylfeydd
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau posib ym mhreswylfeydd a byddwn yn gweithio gyda chi a’ch cyd fyfyrwyr i:
- cynnig croeso cynnes ac annog proses ddiffwdan o bontio i'r brifysgol
- ddatblygu diwylliant sy'n canolbwyntio ar gymuned ac sy'n rhoi ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant
- dod â myfyrwyr at ei gilydd drwy ddigwyddiadau sy’n gwella dysgu, yn cynnig cefnogaeth ymarferol i’ch bywyd fel myfyriwr, yn ogystal â chefnogaeth cymdeithasol a diwylliannol
- hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol o fyw a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol yn gadarnhaol
- cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid a gwybodaeth am wasanaethau arbenigol
- adnabod a chefnogi myfyrwyr sy’n agored i niwed a rheoli sefyllfaoedd mewn argyfwng.
- cysylltu’r profiad dysgu a byw.
Ymuno mewn gweithgareddau
Os ydych yn byw mewn llety'r Brifysgol gallwch ymuno â ni ar gyfer gweithgareddau diddorol a gwybodus.
- dathliadau gwyliau byd-eang gan gynnwys Calan Gaeaf, Diolchgarwch, Nadolig, a'r Flwyddyn Newydd Tsieinëeg
- gweithdai sgiliau bywyd gan gynnwys sut i goginio, cadw trefn ar eich arian a byw gydag eraill
- seisynau galw heibio ar draws neuaddau sy’n cynnig cymorth gan gymheiriaid, cyngor a phaned cyfeillgar o de.
- ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth
- datblygu cymunedau neuadd i gynrychioli eich llais myfyriwr
- cyfleoedd i ddatblygu diddordebau personol drwy wella sgiliau ymarferol, gwersi a hyfforddiant.