Iechyd a Lles

Credwn fod gofalu am eich iechyd a'ch lles yn hollbwysig er mwyn i chi wneud y mwyaf o'ch amser yma.
Os ydych chi'n cael anawsterau personol, emosiynol neu seicolegol – neu os hoffech fyw'n fwy iach – mae ein tîm iechyd a lles yn barod i'ch helpu.
Rydym yn darparu ystod eang o gefnogaeth, sy'n cynnwys:
- adnoddau hunangymorth - gwybodaeth am amrywiaeth o faterion lles a all effeithio'ch bywyd fel myfyriwr.
- cefnogaeth gan gyd-fyfyriwr - siaradwch â myfyrwyr sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth ymarferol i gyd-fyfyrwyr yn gyfrinachol
- gweithdai, cyrsiau a grwpiau - rydym yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn gyda'r bwriad o'ch cefnogi chi i ofalu am eich lles eich hun yn y brifysgol
- sesiynau lles galw heibio, apwyntiadau cwnsela ac atgyfeiriadau ar gyfer cymorth arbenigol pellach - siaradwch un i un gyda therapyddion cwnsela a lles proffesiynol drwy alw heibio ac apwyntiadau.
Mae ein tîm iechyd galwedigaethol, wedi lleoli ar Gampws y Mynydd Bychan, yn darparu cymorth i fyfyrwyr gofal iechyd wrth iddynt baratoi ar gyfer eu cyrsiau a'u lleoliadau gwaith.
Mae meddygfa Plas y Parc hefyd ar gael os ydych yn byw yn yr ardal. Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.