Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol
Rydym yn ymroddedig i les myfyrwyr rhyngwladol.
Mae ein gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnig arweiniad a gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ar amrywiaeth eang o faterion nad ydynt yn academaidd, gan gynnwys:
- digwyddiadau ymsefydlu a gweithgareddau i helpu myfyrwyr rhyngwladol i ymgartrefu i fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd a’r DU yn fwy cyffredinol
- lles a materion rhyngwladol
- cymorth i fyfyrwyr ag anableddau
- cefnogaeth i fyfyrwyr ynglŷn â mewnfudo:
- cymorth gyda cheisiadau i ymestyn fisa myfyriwr (a dibynyddion) Haen 4
- rheoliadau cyflogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol wrth astudio
- goblygiadau newid astudiaethau (er enghraifft tynnu nôl, gohirio astudiaethau)
- opsiynau fisa gwaith i fyfyrwyr rhyngwladol ar ôl bod yn fyfyriwr.