Undeb y Myfyrwyr
Diweddarwyd: 09/05/2024 11:20
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i adloniant byw, clybiau a chymdeithasau, yn ogystal ag ystod o weithgareddau cyffrous.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae hynny'n golygu bod yr Undeb yma i helpu myfyrwyr i ffynnu a bod yn gefn iddynt pan nad yw pethau'n mynd fel y cynlluniwyd, a hynny i gyd o fewn man diogel, cynhwysol lle gall myfyrwyr fod yn nhw eu hunain.
Daeth yr Undeb yn 2il yn y DU yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2024 yng nghategori’r undeb myfyrwyr gorau, ac mae’n gyson yn y 5 uchaf o ran boddhad myfyrwyr yn y DU.
Mae'r Undeb yn gyfleuster pwrpasol yng nghanol Caerdydd sy'n rhychwantu campysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan. Mae'n gartref i gaffis, siopau, bariau, asiantaeth osod, swyddfa bost a mannau astudio hyblyg sydd ar agor ddydd a nos lle gall myfyrwyr gwrdd, ymlacio a gwneud y mwyaf o'u hamser yn y brifysgol.
Arweinir yr SU gan dîm o swyddogion myfyrwyr amser llawn etholedig sy'n cynrychioli myfyrwyr ac ymchwilwyr ac yn rhoi cymorth pwrpasol i ddiwallu eu hanghenion. Nhw sy’n llunio'r holl weithgareddau a gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i fyfyrwyr, ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu isod.
Eich cymunedau myfyrwyr
Pan fyddwch yn ymrestru fel myfyriwr, byddwch hefyd yn dod yn aelod o gymuned y myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, un o’r undebau gorau ym Mhrydain o ran maint, safon a gweithgarwch.
Mae ein 200 gymdeithasau a 65 o dimau chwaraeon yn cynnig rhywbeth sydd at ddant pawb. Mae ein grwpiau myfyrwyr yn rym er lles ar y campws ac yn y gymuned leol. Maent yn cynnal digwyddiadau, gweithgareddau codi arian, a phrosiectau gwirfoddoli y mae tua 15,000 ohonoch yn cymryd rhan bob blwyddyn.
Llais y myfyriwr
Mae'r Undeb hefyd yn gweithio gyda chi ym mhob agwedd ar eich bywyd academaidd, gan roi'r hyn sydd ei angen arnoch i lunio eich addysg a chynnig gofal pe byddai pethau'n mynd o'i le. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddi dros 1,000 o gynrychiolwyr academaidd bob blwyddyn. Mae’r cynrychiolwyr yn ddolen gyswllt werthfawr rhwng y brifysgol, yr Undeb a chorff y myfyrwyr er mwyn sicrhau bod gennych lais ar bob lefel.
Eich profiad o fod yn fyfyrwyr
Mae'r Undeb hefyd yn helpu i greu profiadau bythgofiadwy i fyfyrwyr, gan ymdrechu i gynnal digwyddiadau a gwasanaethau eithriadol yn seiliedig ar yr hyn rydych chi ei eisiau o'ch amser yn y brifysgol. O nosweithiau clwb, golff gwallgof, i deithiau i fannau poblogaidd a digwyddiadau lleol sy'n ceisio hybu lles - mae'r holl elw o wasanaethau’r Undeb yn mynd tuag at ariannu gwasanaethau elusennol y sefydliad.
Eich lles a’ch dyfodol
Mae'r gweithgareddau y mae'r Undeb yn eu cynnig yn eich galluogi i ofalu am les eich hunain a'ch gilydd, gan eich cefnogi i ennill y sgiliau, y wybodaeth, a'r gwydnwch i ddod o hyd i'ch lle yn y byd. O helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith rhan-amser trwy wasanaeth y Siop Swyddi i ddarparu gwasanaeth cyngor annibynnol a chyfrinachol rhad ac am ddim pryd bynnag y bydd angen cefnogaeth arnoch, mae'n werth edrych ar yr holl wasanaethau sydd gan yr Undeb i'w cynnig.
Mae Undeb eich Myfyrwyr yma i'ch helpu i deimlo'n gartrefol o'ch diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd. Ymunwch â ni mewn nosweithiau clwb, ffeiriau, teithiau, teithiau, gweithgareddau a mwy.