Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i gynllunio eich camau nesaf – o ddigwyddiadau a chyngor i brofiad byd go iawn.

Ydych chi’n gwybod yn union beth rydych chi am ei wneud ar ôl i chi raddio? Neu a ydych chi'n chwilio am syniadau ar gyfer swydd? Beth bynnag fo'ch sefyllfa, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd gynnig cyngor wedi'i deilwra ar-lein ac un i un i'ch helpu chi i gynllunio ar gyfer eich cam nesaf.

Gallwch chi hefyd gyrchu ystod o weithdai i helpu i hybu eich cyflogadwyedd, gan gynnwys:

  • dewis gyrfa
  • chwilio am swyddi
  • paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • ysgrifennu ceisiadau a llawer mwy

Mae ein gwasanaeth ar gael i bob myfyriwr, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Ac i'n myfyrwyr rhyngwladol, rydyn ni'n cynnig cyngor ar sicrhau cyflogaeth yn y DU a gartref.

star

Ymhlith y graddedigion mwyaf poblogaidd yn y DU

Roedd 95% o’n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl i’w cwrs ddod i ben (Ffynhonnell: Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2021/22).

building

Dewis o blith llawer iawn o sefydliadau

Mae ein myfyrwyr wedi cael lleoliadau gyda mwy na 100 o gyflogwyr rhyngwladol, busnesau bach a chanolig a chyflogwyr lleol.

Profiad gwaith

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr i ddod â chyfleoedd lleoliad ac interniaeth i chi – gan eich helpu i feithrin profiad a hyder cyn i chi raddio.

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith trwy gydol eich astudiaethau. O sesiynau blasu undydd i leoliadau blwyddyn o hyd, byddwch yn cael cipolwg ar y byd gwaith, yn adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol, yn rhoi hwb i'ch CV ac yn darganfod beth rydych chi'n ei fwynhau.

Cefais ddau gyfarfod gyda fy nghynghorydd gyrfaoedd, cyfarfod paratoi ar gyfer cyfweliad ac yna ffug gyfweliad. Roedd hi’n hyfryd a rhoddodd gyngor gwych i mi ar sut i ateb cwestiynau cyfweliad yn llwyddiannus yn ogystal â’r hyn y dylwn i ei ddisgwyl. Gyda’i chefnogaeth, llwyddais i gael swydd lefel gradd! 
Shriya, MChem Cemeg gyda Blwyddyn ym myd Diwydiant 

Gall y cyfleoedd byrrach, hyblyg gyd-fynd yn hawdd â'ch astudiaethau ac ymrwymiadau eraill. Ond mae gennych chi hefyd yr opsiwn i roi cynnig ar interniaethau hirach â thâl y gellir eu cwblhau yn ystod eich astudiaethau neu yn ystod gwyliau a’r haf. Gallwch hyd yn oed gymryd rhan mewn lleoliad haf â thâl mewn amgylchedd ymchwil prifysgol neu ennill profiad gwaith dramor.

Neu gallwch chi ymgorffori gwaith yn eich gradd: mae gan lawer o’n rhaglenni elfen o brofiad gwaith hefyd.

Pa gyfle bynnag y byddwch chi’n ei ddewis, gallwch chi fanteisio o hyd ar ein holl lyfrgelloedd, cyfleusterau a gwasanaethau cefnogi a lles myfyrwyr. Mae’n cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Ychydig o’r cwmnïau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw

Gyrfaoedd ar alw

Angen cefnogaeth ar eich amserlen eich hun? Mae Dyfodol Myfyrwyr+ yn rhoi mynediad 24/7 i chi at offer, cyngor, a chynnwys rhyngweithiol i hybu eich cyflogadwyedd.

Fel myfyriwr, gallwch chi hefyd gyrchu ein gwirydd CV deallus sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) blaengar i roi adborth ar unwaith ar eich CV, 24 awr y dydd.

Byddwn i’n sicr yn argymell cysylltu â’r tîm gyrfaoedd, ni fyddwn i wedi cael swydd hebddyn nhw, heb os nac oni bai! Cefais i gefnogaeth gan Cath drwy bob cam o'r broses recriwtio. Daeth hi i fy adnabod yn dda, gan roi cyngor da iawn ar sut i reoli cyfweliadau fideo a byw. Roedd yn gymorth mawr o ran fy nerfau a fy hyder a gwnaeth hi fy mharatoi ar gyfer yr holl bethau a ddigwyddodd trwy gydol y broses.
Emily, BSc Mathemateg

Recriwtio graddedigion

Mae cannoedd o recriwtwyr myfyrwyr a graddedigion yn targedu'r Brifysgol yn flynyddol fel rhan o'u hymgyrchoedd recriwtio, ac rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â nhw er mwyn i chi allu:

  • pori drwy fwy na 1,000 o gyfleoedd ar ein hysbysfwrdd swyddi ar-lein
  • mynd i ffeiriau gyrfaoedd (rhai cyffredinol a rhai sy’n benodol i sectorau)
  • mynd i ddigwyddiadau ac arddangosfeydd cyflogwyr i ddysgu rhagor amdanyn nhw.

Mae gennym enw da rhagorol o ran sicrhau cyflogaeth i’n graddedigion. Prifysgol Caerdydd yw'r 12fed brifysgol orau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd yn Rhestr Cyflogadwyedd Prifysgolion Byd-eang 2023/24 Times Higher Education.

Mae galw am ein graddedigion ar draws ystod eang o yrfaoedd ac mae cyflogwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn parhau i dargedu ein graddedigion.

Dechrau busnes

Oes gennych chi syniad am fusnes, menter gymdeithasol neu ydych chi eisiau mynd ar eich liwt eich hun? Rydyn ni’n gwybod nad yw llwybrau gyrfaol pob myfyriwr yn arwain at swydd draddodiadol, felly rydyn ni’n cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra sy'n cyfuno mentora busnes arbenigol â hyfforddiant manwl a mynediad at arian sbarduno a lle wrth ddesg.

Cewch chi’r cyfle hefyd i fentora myfyrwyr eraill – dyma gynllun poblogaidd iawn sy’n hybu datblygu sgiliau yn y mentoreion a’r mentoriaid fel ei gilydd.

Gwobr cyflogadwyedd

Mae ein gwobr cyflogadwyedd yn rhoi’r cyfle i chi gael cydnabyddiaeth am y gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys profiad gwaith, mentora, cymdeithasau, gwirfoddoli a gwaith rhan-amser.

Mae'r wobr yn agored i bob myfyriwr ac mae'n helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy'n dangos i gyflogwyr eich bod yn barod ar gyfer byd gwaith.

Diweddaru’ch gwybodaeth yn gyson

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a’r cyfleoedd rheolaidd gan Dyfodol Myfyrwyr:

Dyfodol Myfyrwyr

Rydym yn aelod o Gymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd Graddedigion (AGCAS).


Ffynhonnell: Canlyniadau arolwg Deilliannau Graddedigion 2021/22 a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Cyhoeddir data agored HESA o dan y drwydded (CC BY 4.0).