Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliad a thrafnidiaeth

Cardiff Bay

Mae Caerdydd wedi'i lleoli yn ne Cymru ac yn hygyrch o nifer o leoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Caerdydd yn ddinas sy’n elwa o gysylltiadau ardderchog ar ffyrdd, rheilffyrdd ac awyrennau. Gan ddefnyddio'r gwasanaeth trên cyflym, gallwch gyrraedd Llundain mewn tua dwy awr.

Mae meysydd awyr Bryste a Chaerdydd yn hedfan yn gyson i ddinasoedd y DU ac Ewrop ac mae modd cyrraedd meysydd awyr Llundain yn hawdd ar fws neu drên.

Mae modd cerdded i ganol y ddinas o ardaloedd preswyl y myfyrwyr yn Cathays a'r Rhath.

Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad ardderchog ac mae hefyd wedi’i lleoli yn un o'r dinasoedd mwyaf cyfeillgar i fyfyrwyr. Mae popeth o fewn tafliad carreg i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd!

Egle Gradeckaite (BSc 2017), a astudiodd y Gwyddorau Cymdeithasol