Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru – Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC

Ni yw’r partner arweiniol ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC), sy’n galluogi myfyrwyr PhD ledled Cymru a thu hwnt i gael mynediad at hyfforddiant ymchwil o’r radd flaenaf yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd.

Trosolwg

Mae YGGCC yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol ar y lefel uchaf ledled Cymru ar ystod o faterion sy'n effeithio ar ein cymdeithas heddiw. Rydym yn datblygu enw da am gydweithio llwyddiannus ar hyfforddiant doethurol yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru – mae YGGCC a’i rhagflaenydd, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru, wedi cynnig tua 60 o ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig newydd bob blwyddyn. Rydym yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynhyrchu gwybodaeth a meithrin galluoedd deallusol a sgiliau ymchwil sy’n galluogi myfyrwyr i wneud cyfraniadau rhagorol at ddatblygiad amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnig gostyngiadau oddi ar ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ysgoloriaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt.

Themâu ymchwil

  • dwyieithrwydd ac ieithyddiaeth
  • economi digidol a chymdeithas
  • economeg
  • y gyfraith a throseddeg
  • cynllunio amgylcheddol
  • daearyddiaeth ddynol
  • newyddiaduraeth, y cyfryngau digidol a democratiaeth
  • astudiaethau rheoli a busnes
  • gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaethau ardal
  • seicoleg
  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys addysg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol

Partneriaethau

Mae YGGCC yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe. Fel aelod cyswllt o YGGCC, mae Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn ein gwaith ar y cyd i hyfforddi a datblygu ymchwilwyr.

Mae YGGCC yn elwa ar bartneriaethau strategol gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ewch iwefan YGGCC i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb mewn cael yr arian hwn ac os ydych am gael gwybod am ysgoloriaethau ymchwil eraill a gyhoeddir o dan y cynllun.