Ewch i’r prif gynnwys

Aelodaeth Chwaraeon

Ymunwch â'n cynllun aelodaeth poblogaidd i arbed arian ar chwaraeon.

Aelodaeth Gymunedol

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio ein cyfleusterau.  Prynwch Aelodaeth Gymunedol i elwa ar:

  • mynediad diderfyn i ystafelloedd ffitrwydd ym mhob un o’n safleoedd
  • mynediad diderfyn i ystafelloedd cryfder a chyflyru yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon a'r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol
  • dosbarthiadau ffitrwydd cynhwysol ac archebu ymlaen llaw
  • ffi ymuno am ddim (pris arferol £20.50)
  • cyfraddau is ar gyfer ymgynghoriadau ffitrwydd a sesiynau hyfforddiant personol
  • cyfraddau is ar gyfer llogi cwrt (tenis/ badminton/sboncen/tenis bwrdd)
  • defnyddio ystafelloedd newid am ddim (pris arferol £1)

Mae Aelodaeth Gymunedol ar gael am gyfradd un-tro o £400 ac yn ddilys am 12 mis o'r diwrnod y prynwyd

Cofrestrwch

Ymunwch â'n cynllun aelodaeth drwy lenwi ffurflen gais a’i chyflwyno idderbynfa un o’r cyfleusterau chwaraeon i'w phrosesu a thalu neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth,

Mae Telerau ac Amodau defnyddio yn gysylltiedig â’r aelodaeth

Mae angen i aelodau sy'n dymuno canslo eu tanysgrifiad aelodaeth wneud hynny'n ysgrifenedig trwy anfon ebost atsport@caerdydd.ac.uk.

Ffurflen gais aelodaeth Chwaraeon

Ymunwch â'n cynllun aelodau platinwm neu aur i arbed arian ar chwaraeon.