Adam Street Gardens
- Pris: O £164.73 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £7248.12)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion
- Myfyrwyr: 221
Cyfleusterau allweddol
Mae'r neuadd breswyl breifat hon yn eiddo i Unite ac yn cael ei rheoli gan Unite. Mae gan Brifysgol Caerdydd drefniant atgyfeirio ar waith ar gyfer sesiwn 2024/25, fel y gall myfyrwyr gynnwys y neuadd hon fel un o'u dewisiadau wrth geisio llety.
Mae'r trefniant hwn yn golygu, os dyfernir ystafell i chi yn y neuadd breswyl hon. Bydd eich contract yn uniongyrchol gydag Unite a bydd yr holl wasanaethau llety/prosesau yn cael eu darparu gan Unite, nid y brifysgol.
Mae Adam Street Gardens yn cynnig cartref i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas gydag ardal gymunedol ar y safle a champfa gyda chyfarpar da yn rhad ac am ddim. Mae'r neuadd hon yn arbennig o gyfleus i fyfyrwyr sy'n astudio Peirianneg, Ffiseg a Seryddiaeth neu Gyfrifiadureg, ond mae hefyd o fewn pellter cerdded i bopeth sydd ar Gampws Cathays.
Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr yn y DU. Os nad oes gan breswylwyr warantwr yn y DU, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25, bydd Unite yn gwneud gwaith ar ffasâd allanol yr eiddo hwn rhwng 09:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwch yn clywed rhywfaint o sŵn isel yn ystod oriau gwaith, ac yn gweld sgaffaldiau o amgylch y safle. Bydd Unite yn rhoi gwybod am y gwaith hwn cyn iddynt ddechrau.
Gofodau byw
Fflatiau gyda cegin a rennir
Parcio
Dim maes parcio o fewn radiws o 3 milltir
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety.
Pellter i gampysau
Prif adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty) | |
---|---|---|
Pellter | 1 milltir | 2.5 milltir |
Cerdded | 20 munud | 50 munud |
Beicio | 10 munud | 25 munud |
Bws | n/a | Bws Caerdydd - cynllunio eich tait |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Howard Gardens Campus (Tesco Express) |
---|---|
Archfarchnad | E. Tyndall Street (Lidl) |
Bwyd cyflym | Canol y ddinas |
Bar | Canol y ddinas |
Cyfleusterau chwaraeon | Campfa ar y safle
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Siediau beic | Ar y safle |
Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.
Lawrlwytho’r canllaw lleoliadauCostau
Mis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2025 (44 wythnos)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 2 | £7248.12 |
Sylwer: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.
Taliad ymlaen llaw
Mae taliad ymlaen llaw yn daladwy i Unite cyn cyrraedd. Bydd swm y taliad ymlaen llaw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm y rhent.
Gwarantwr y DU
Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr yn y DU. Os nad oes gan breswylwyr warantwr yn y DU, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd yn Adam Street Gardens.
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:
Swyddfa Preswylfeydd
- Ebost:
- residences@cardiff.ac.uk
- Ffôn:
- +44 (0)29 2087 4849
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.