Tŷ Pont Haearn
- Pris: O £161 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £7084)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion
- Myfyrwyr: 643 rooms (306 ensuite rooms reserved for Cardiff University students)
Cyfleusterau allweddol
Mae'r neuadd breswyl breifat hon yn eiddo i Unite ac yn cael ei rheoli gan Unite. Mae gan Brifysgol Caerdydd drefniant atgyfeirio ar waith ar gyfer sesiwn 2024/25, fel y gall myfyrwyr gynnwys y neuadd hon fel un o'u dewisiadau wrth geisio llety.
Sylwch: mae'r trefniant hwn yn golygu, os dyfernir ystafell i chi yn y neuadd breswyl hon. Bydd eich contract yn uniongyrchol gydag Unite a bydd yr holl wasanaethau llety/prosesau yn cael eu darparu gan Unite, nid y Brifysgol.
Mae Tŷ Pont Haearn wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, o fewn pellter cerdded i Gampws Parc Cathays ac yn arbennig o gyfleus i fyfyrwyr sy’n astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Mae ganddo ei ardal gymunedol ei hun ar y safle gyda pharth Playstation ac ardaloedd astudio, felly lle gwych i gymdeithasu ac ymlacio.
Sylwer:
Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr yn y DU. Os nad oes gan breswylwyr warantwr yn y DU, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd.
Gofodau byw
Fflatiau ar gyfer 3 i 6 o fyfyrwyr
Parcio
Dim maes parcio o fewn radiws o 3 milltir
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety.
Pellter i gampysau
Prif adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty) | |
---|---|---|
Pellter | 1 milltir | 2.5 milltir |
Cerdded | 20 munud | 50 munud |
Beicio | 10 munud | 25 munud |
Bws | n/a | Bws Caerdydd - cynllunio eich tait |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Canol y ddinas |
---|---|
Archfarchnad | E. Tyndall Street (Lidl) |
Bwyd cyflym | Canol y ddinas |
Bar | Canol y ddinas |
Cyfleusterau chwaraeon | Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol Prifysgol Caerdydd
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Siediau beic | Ar y safle |
Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.
Lawrlwytho’r canllaw lleoliadauCostau
Mis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2024 (44 wythnos)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 1 | £7084.00 | |
Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 2 | £7348.00 | |
Stiwdio Clasurol | £8316.00 | |
Stiwdio Ystod Premiwn 1 | £8756.00 |
Sylwer: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.
Taliad ymlaen llaw
Mae taliad ymlaen llaw yn daladwy i Unite cyn cyrraedd. Bydd swm y taliad ymlaen llaw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm y rhent.
Gwarantwr y DU
Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr yn y DU. Os nad oes gan breswylwyr warantwr yn y DU, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd yn Tŷ Pont Haearn.
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:
Swyddfa Preswylfeydd
- Ebost:
- residences@cardiff.ac.uk
- Ffôn:
- +44 (0)29 2087 4849
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.