Tŷ Clodien
- Pris: O £157 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £6453.81)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion, israddedigion sy'n astudio cwrs gofal iechyd estynedig, israddedigion sy'n astudio cwrs gofal iechyd sy'n dechrau ym mis Ionawr, Ôl-raddedigion
- Myfyrwyr: 380
Cyfleusterau allweddol
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r neuadd breswyl breifat hon, sydd o dan berchnogaeth a rheolaeth Unite, sy’n golygu ein bod yn gallu cynnig y neuadd hon i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mae Tŷ Clodien mewn lleoliad delfrydol i fyfyrwyr sy’n astudio ar Gampws Mynydd Bychan ac mae o fewn pellter cerdded hefyd i Gampws Parc Cathays.
Mae Unite yn mynnu bod gan bob preswylwyr warantydd yn y DU. Os nad oes gan breswylwyr warantydd yn y DU, bydd raid iddynt dalu rhent cyn iddynt gyrraedd neu wrth gyrraedd Tŷ Clodien.
Gofodau byw
Flatiau â chegin a rennir ar gyfer 4-6 o fyfyrwyr
Ystafell hunan-gynhwysol i un a’i chegin ei hun
Parcio
Dim maes parcio o fewn radiws o 3 milltir
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg
Gofodau byw
Flatiau â chegin a rennir ar gyfer 4-6 o fyfyrwyr
Ystafell hunan-gynhwysol i un a’i chegin ei hun
Parcio
Dim maes parcio o fewn radiws o 3 milltir
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.
Pellter i gampysau
Prif adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty) | |
---|---|---|
Pellter | 1.25 milltir | 0.25 milltir |
Cerdded | 25 munud | 5 munud |
Beicio | 12 munud | 2 munud |
Bws |
Heol Whitchurch, Bws Caerdydd 35 |
n/a |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Heol Whitchurch |
---|---|
Archfarchnad | Heol Crwys (Co-op) |
Bwyd cyflym | Heol Whitchurch |
Bar | Heol Allensbank |
Cyfleusterau chwaraeon | Campws Mynydd Bychan
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.
Lawrlwytho’r canllaw lleoliadauCostau
Mis Medi 2023 i fis Mehefin 2024 (41 wythnos)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Ensuite | £6453.81 | |
Stiwdio | £8528.82 |
Mis Medi 2023 i fis Medi 2024 (blwyddyn lawn)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Ensuite (Ôl-raddedigion yn unig) | £8072.88 | |
Stiwdio (Ôl-raddedigion yn unig) | £10668.45 |
Cwrs gofal iechyd estynedig (ansafonol)
Math | Cyfanswm |
---|---|
Ensuite/Stiwdio (Myfyrwyr Mynydd Bychan) | Yn amrywio, yn ôl dyddiadau cyrsiau unigol. Bydd rhent yn cael ei gyfrifo yn ôl y gyfradd ddyddiol ar gyfer cyfnod y contract, sef 40-wythnos. |
Sylwch: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.
Taliad ymlaen llaw
Mae taliad ymlaen llaw yn daladwy i Unite cyn cyrraedd. Bydd swm y taliad ymlaen llaw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm y rhent.
Gwarantwr yn y Deyrnas Unedig
Mae Unite yn mynnu bod gan bob preswylydd warantwr sy'n byw yn y Deyrnas Unedig. Os nad oes gan y preswylwyr warantwr yn y Deyrnas Unedig, yna rhaid talu rhent yn llawn cyn cyrraedd Tŷ Clodien neu wrth ichi gyrraedd.
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:
Swyddfa Preswylfeydd
- Ebost:
- residences@cardiff.ac.uk
- Ffôn:
- +44 (0)29 2087 4849

Roedd Tŷ Clodien yn le da i fyw gan ei fod yn agos i’r ysbyty lle roeddwn yn cael fy narlithoedd. Roedd y lleoliad yn ddelfrydol hefyd gan ei fod yn agos i siopau lleol ac yn hawdd cyrraedd canol y ddinas. Roedd y tŷ yn gymdeithasol iawn ac roedd hi’n haws i wneud ffrindiau newydd oedd yn astudio cwrs tebyg i mi.
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.