Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnodau contract

Caiff dyddiadau contract eich llety penodol eu cadarnhau yn eich cynnig ystafell.

Bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch hwyrach yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau/lleoliadau gwaith.

Rhwng Mis Medi a mis Mehefin (40 wythnos)

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023 tan ddydd Mercher 26 Mehefin 2024, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.

Rhwng Mis Medi a mis Mehefin (39 wythnos)

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023 tan ddydd Llun 17 Mehefin 2024, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.

Rhwng Mis Medi a mis Gorffennaf (41 wythnos) - Tŷ Clodien

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023 tan ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2024, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.

Rhwng Mis Medi a mis Gorffennaf (42 wythnos) - Unite- Adam Street Gardens

  • Dydd Gwener 15 Medi 2023 tan ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.

Cyfnod contract ansafonol

  • Mae'r cyfnodau hyn yn cyd-fynd yn gyffredinol â dyddiadau semester cyrsiau unigol ac maent yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio:
    • Hylendid/Therapi Deintyddol
    • Bydwreigiaeth
    • Nyrsio
    • Radiograffeg
    • Ffisiotherapi
  • Bydd union ddyddiadau cyfnod eich contract yn cael eu cadarnhau yn eich cynnig ystafell.

Cyfnod contract blwyddyn lawn

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023 tan ddydd Gwener 13 Medi 2024

Sylwer:

  • Mae angen i chi symud allan o'ch ystafell ar ddiwedd cyfnod eich contract.
  • Mae'n bosibl y bydd myfyriwr sydd â chontract blwyddyn gyfan yn cael eu hannog i symud o'u hystafell wely astudio i ystafell wely astudio arall sydd mor agos â phosibl yn yr un ardal breswyl. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn parhau i fyw gyda myfyrwyr eraill a bydd yn lleihau'r tarfu a achosir pan fydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd ar y safle. Disgwylir y bydd y gwaith symud hwn yn digwydd ym mis Mehefin/Gorffennaf. Bydd y Rheolwr Preswylfeydd yn rhoi gwybod ichi am y manylion a'r ystafell newydd y byddwch yn symud iddi.

Cyrraedd yn gynnar o wledydd tramor

Os ydych yn bwriadu cyrraedd Caerdydd cyn dechrau cyfnod eich contract, nodwch y canlynol:

  • Os ydych chi'n bwriadu cyrraedd cyn dydd Llun 18 Medi, ni fydd yr ystafell a ddyrannwyd ichi ar gael a bydd yn rhaid ichi wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer llety dros dro tan ddechrau cyfnod eich contract.
  • Os ydych chi'n bwriadu cyrraedd rhwng dydd Llun 18 Medi a dechrau cyfnod eich contract, efallai y bydd yr ystafell a ddyrannwyd ichi ar gael. Bydd yn rhaid ichi gysylltu â Rheolwr eich Preswylfa ymhell cyn ichi gyrraedd er mwyn gwirio hyn. Os nad yw'r ystafell a ddyrannwyd ichi ar gael tan ddechrau cyfnod eich contract, bydd yn rhaid ichi wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer llety dros dro tan ddechrau cyfnod y contract.