Ewch i’r prif gynnwys

Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaeth

Mae ein chwe Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth yn adlewyrchu amrywiaeth yr arbenigeddau yn ein Hysgol. Mae'r grwpiau'n helpu i ddod a staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig at ei gilydd, gan alinio gweithgareddau ymchwil gyda chlystyrau penodol o wybodaeth a chynyddu'r synergedd rhwng ymchwil ac addysgu.

Mae'r grwpiau cynhwysol hyn yn cynnal a chefnogi ein diwylliant ymchwil, yn helpu i fentora a meithrin ein myfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ogystal â threfnu digwyddiadau ymchwil, cynnal prosesau adolygu grantiau gan gyfoedion mewnol a cheisiadau ar y cyd.

CMA RSG

Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth

Gwella dylunio pensaernïol trwy ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol arloesol.

Peter Salter

Deunyddiau Ymarfer Dylunio a Gwneud (DPMM)

Ymchwil sy'n gysylltiedig â dylunio, ymarfer, deunyddiau a gwneud

Refitted low-carbon Swansea bungalows

Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth Ynni, yr Amgylchedd a Phobl

Mae angen i'r amgylchedd adeiledig a'r rhai sy'n ei feddiannu wneud y mwyaf o gyfleoedd sy'n cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth ddarparu lleoedd diogel ac iach i bobl fyw a gweithio ynddynt.

Temple

Hanes a Theori

Uwchganolbwynt ymchwil y dyniaethau yn Ysgol Pensaerniaeth Cymru.

H&C

Treftadaeth a Chadwraeth

Gan geisio creu pontydd rhwng yr heriau athronyddol a thechnegol beirniadol sy’n gysylltiedig â chadwraeth adeiladau gyfoes, mae ein grŵp yn mynd i’r afael â rôl treftadaeth ddiwylliannol yn y dyfodol fel adnodd diwylliannol cynhwysol sy’n gyrru datblygu cynaliadwy trwy egwyddor “gwneud dim niwed.”

Urbanism

Trefolaeth

Mae’r Grŵp Ymchwil ac Ysgolheictod Trefol (URSG) yn dod ag ymchwilwyr ynghyd sy’n canolbwyntio ar rôl trefoliaeth wrth siapio creadigol lleoedd trefol a mannau cyhoeddus yn ninasoedd y De a’r Gogledd byd-eang.