Cyrsiau
Rydym yn frwdfrydig ynglŷn â chreu amgylchedd adeiledig fydd yn gwella bywydau pobl heb ddinistrio'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rydyn ni’n cynnig yr holl ystod o gymwysterau y bydd eu hangen i fod yn bensaer cofrestredig yn y Deyrnas Unedig.
Mae ein graddau BA Astudiaethau Pensaernïol (Rhan 1), Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch, Rhan 2) a Diploma/MA Astudiaethau Proffesiynol (Rhan 3) wedi'u cymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB).
Edrychwch o gwmpas ein cyfleusterau Pensaernïaeth gyda’n taith 360.