Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal a chadw cydberthynol, effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd ar gyfer adeiladau traddodiadol yn y DU

A damp interior

Astudiaeth gwmpasu wedi'i hariannu gan Cadw, Historic Environment Scotland a Historic England.

Mae'r astudiaeth hon yn chwilio am ffyrdd i ddangos sut y gallai cynnal a chadw adeiladau traddodiadol yn well leihau costau ynni yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd. Ariannwyd y prosiect gan dair o asiantaethau'r llywodraeth; Historic England, Historic Environment Scotland a Cadw. Mae'r Safonau Prydeinig newydd ar gyfer cadwraeth eisoes wedi sbarduno cydnabyddiaeth o gydberthynas rhwng tamprwydd ag effeithlonrwydd ynni er mwyn mynd i'r afael â dulliau pellach o wneud cyswllt rhwng cyflwr adeiladau a pherfformiad ynni adeiladau.

Mae’r portread o adeiladau traddodiadol fel rhai sy’n perfformio’n wael o ran ynni yn annog ôl-osod. Mae eisoes wedi cael ei sefydlu bod ffigyrau safonol o berfformiad thermol yn gallu newid yn seiliedig ar fesuriadau ar y safle (BRE, 2015) Mae ymchwil arall yn tynnu sylw at y risgiau i adeiladwaith hanesyddol sy'n deillio o fesurau heb gael eu hystyried yn ofalus (Fouseki and Cassar, 2014). Gall y ddau ddull a ddefnyddir i grynhoi perfformiad thermol ffisegol ffabrig adeiledig traddodiadol â rhagdybiaethau o sut gall defnydd ac ymddygiad defnyddwyr arwain at gasgliadau niweidiol a phenderfyniadau gwallus. Y nod yw dod o hyd i’r modd i ddatblygu dulliau mwy gwybodus o asesu perfformiad ynni mewn adeiladau presennol.

Lawrlwythwch yr adroddiad yma:

Correlating maintenance, energy efficiency and fuel poverty for traditional buildings in the UK

The scoping study here reviews potential for developing a research framework to address the feasibility for energy efficiency of historic buildings to be increased through better maintenance programmes.

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Dr Oriel Prizeman os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad neu’r ymchwil cysylltiedig,

Yr Athro Oriel Prizeman

Yr Athro Oriel Prizeman

Personal Chair

Email
prizemano@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5967
Dr Christopher Whitman

Dr Christopher Whitman

Senior Lecturer

Email
whitmancj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5893