Ewch i’r prif gynnwys

Ynni, yr Amgylchedd a Phobl

Mae ein grŵp wedi ymroi i ymchwilio i’r berthynas gymhleth rhwng ynni a pherfformiad amgylcheddol ym maes pensaernïaeth bobl-ganolog a dylunio trefol.

Mae ein harbenigedd ar y cyd yn rhychwantu ystod eang o feysydd, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni a’i berfformiad, ansawdd aer dan do ac iechyd, seicoleg ac ymddygiad dynol, microhinsoddau trefol, adeiladau a dinasoedd clyfar, yn ogystal ag addasu a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd yn yr amgylchedd adeiledig.

Prosiectau

Air quality in primary schools

Pecyn cymorth Ansawdd Aer Dan Do ar gyfer Ysgolion Cynradd

Mae’r prosiect Cyfrif Cyflymydd Effaith (IAA), Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) hwn, yn brosiect rhyngddisgyblaethol o ran effaith, a fydd yn cefnogi ysgolion i gynnal ystafelloedd dosbarth a mannau dan do, iach, sydd wedi'u hawyru'n dda.

Swansea Councils new build housing

Gwerthusiad tymor hir o gartrefi Cyngor Abertawe a adeiladwyd o’r newydd

Bydd gwaith monitro adeiladau a systemau sy'n cael ei wneud gan WSA yn rhoi tystiolaeth i Gyngor Abertawe ynghylch buddion ymgorffori datrysiadau carbon isel yn eu cartrefi newydd.

Press front page survey

Datblygu teclyn arolwg ôl-ffitio cyfnod cynnar ymarferol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cartrefi presennol

Mae offeryn arolwg cam cynnar ôl-ffitio ymarferol - PRESS 1 - wedi'i ddatblygu ar gyfer y sector domestig yn dilyn adolygiad o'r offer arolygu presennol.

Decision making in regenerative design

Gwneud Penderfyniadau ym maes Dylunio a Datblygu Adfywiol

Integreiddio prosesau sero net a dylunio adfywiol ynghyd â thechnolegau digidol mewn dylunio a chynllunio seiliedig ar berfformiad.

Outdoor air quality sensor

Ansawdd Aer Dan Do ac Awyr Agored De Cymru

Cymharu ansawdd aer dan do ac awyr agored ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru.

Sustainability and design quality

Rôl ganolog cynsail pensaernïol mewn dylunio pensaernïol cynaliadwy

Hyrwyddo esblygiad critigol drwy integreiddio iaith cynaliadwyedd ac ansawdd dylunio.

Hassett 2020 case study house

Defnyddio storio a chynhyrchu trydan adnewyddadwy er mwyn lleihau allyriadau carbon domestig a thrafnidiaeth

Mae’r prosiect yn ymchwilio i ynni bywyd cyflawn, carbon a chost system cynhyrchu ynni adnewyddadwy integredig.

EneryREV

Consortiwm Ymchwil Chwyldro Ynni: EnergyREV

Bydd Consortiwm EnergyREV yn dangos sut i sicrhau symudiad teg i ddyfodol di-garbon tra'n gwella economi'r DU.

Anaheim chillies

Tyfu Bwyd Trefol - Beth yw ein hopsiynau?

Sut gall pobl leihau effaith eu bwyd?

Circubed

CircuBED – Cymhwyso’r economi gylchol i gynllun tai cymdeithasol

Ymchwil i roi economi gylchol ar waith mewn dinasoedd.

Publications

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.