Ewch i’r prif gynnwys

Addysgeg wedi'i ymgorffori: cyflwyno 'arwahanrwydd' mewn addysg bensaernïol

Embodied pedagogies
Embodied pedagogies

Mae'r ymchwil yn archwilio gwerth addysgol a moesegol addysgeg wedi'i ymgorffori ac addysgeg arwahanrwydd i addysg bensaernïol. Mae'n edrych ar sut gall cyrff 'eraill' ein helpu i lywio agweddau esthetaidd/technolegol ar ddylunio, hyrwyddo nodweddion cyffredin gyda meysydd disgyblaethau eraill, codi ymwybyddiaeth o gyrff a chyd-destunau ansefydlog, a threiddio i ddiwylliannau stiwdio mewn ffordd bositif.

Yng nghyd-destun addysg bensaernïol y DU, mae cyrff ansefydlog, amrywiol a byrhoedlog fel arfer yn absennol o stiwdios dylunio, neu'n dod o hyd i lwybrau 'tenau' i'w briffiau drwy'r meini prawf ARB (GC5-GC6).  Ar eu ffurf gyffredin, mae'r cyrff hyn yn dod yn gyfrwng dysgu ar gyfer cyflwyno adnoddau a nodweddion pensaernïol sylfaenol (graddfa, cyfeiriadedd, golygfeydd, materoldeb) yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, wrth ddechrau meddwl mewn ffordd wedi'i ymgorffori, yn aml mae trafodaethau ar eu cymhlethdod, amrywiaeth a byrhoedledd yn cael eu cyfyngu i archwiliadau synhwyrol o bensaernïaeth neu ddadleuon ar ddylunio ergonomig. Prin iawn y mae'r nodweddion hyn yn cael eu trafod mewn stiwdios 3edd a 4edd flwyddyn, lle mae myfyrwyr fel arfer yn gweithio ar raglenni cyhoeddus ar raddfa fawr, ac yn rheoli anghenion defnyddwyr 'cyfartalog' a grwpiau cymdeithasol amrywiol. O ganlyniad, mae cymhlethdod, amrywiaeth a byrhoedledd yn cael eu trafod yn bennaf mewn modiwlau hanes a theori a thraethodau hir, yn bell i ffwrdd o'r stiwdio dylunio.

Mae'r ymchwil yn archwilio gwerth addysgol a moesegol addysgeg wedi'i ymgorffori ac addysgeg arwahanrwydd i addysg bensaernïol. Mae'n edrych ar sut gall cyrff 'eraill' ein helpu i lywio agweddau esthetaidd/technolegol ar ddylunio, hyrwyddo nodweddion cyffredin gyda meysydd disgyblaethau eraill, codi ymwybyddiaeth o gyrff a chyd-destunau ansefydlog, a threiddio i ddiwylliannau stiwdio mewn ffordd bositif.

Cyhoeddiadau

  • Ntzani, D. 2021. “Troublesome pedagogies: introducing 'otherness' to 1st year design studio”, in Initiations: practices of teaching 1st year design in architecture,  Chatzichristou, C., Icavovou, P. and Koutsoumpos, L. eds. tt. 195-204.

Partneriaid

  • Sophia Banou
  • Aikaterini Antonopoulou
Dr Dimitra Ntzani

Dr Dimitra Ntzani

Senior Lecturer in History and Theory of Architecture

Email
ntzanid@caerdydd.ac.uk