Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Exhibition space

Croeso i Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ysgol pensaernïaeth yng Nghaerdydd sy'n arwain y byd ac sydd ar flaen y gad o ran gosod yr agenda yn y maes.

Rydym yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU. Fe'n rhestrir yn gyson ymhlith y 5 ysgol pensaernïaeth gorau mewn tablau cynghrair pwnc yn genedlaethol.

Sefydlwyd Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1920 yn Adeilad Bute; adeilad a gynlluniwyd gan Sir Percy Thomas. Dyma adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd. Mae pensaernïaeth wedi ei dysgu yma'n barhaus ers dros can mlynedd.

Rhwng 2018-22, gan ymateb i boblogrwydd a thwf yr Ysgol, newid gofynion o ran addysg bensaernïol mewn oes ddigidol ac amrywio o ran ein harbenigedd ymchwil, cafodd Adeilad Bute ei ailgynllunio a’i adnewyddu’n sylweddol. Canlyniad y prosiect yw gwell stiwdios dylunio ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, nifer o fathau gwahanol o fannau dysgu ac addysgu, lle pwrpasol ar gyfer saernïo digidol a meithrin crefft, stiwdio hybrid, 'Labordy Byw' (man lle gall academyddion, cymunedau a diwydiannau gydweithio ar brosiectau) ac awditoriwm newydd ar gyfer cynnal symposia a chynadleddau. Ac yntau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr AJ (Architects' Journal) yn 2022, mae'r Adeilad Bute ar ei newydd wedd yn ein galluogi i adeiladu ar ein traddodiad cryf o addysg bensaernïol, wrth i ni addasu i gyd-fynd â thechnolegau a ffyrdd o weithio sy’n newid, ac mae hefyd wedi’n galluogi i ddathlu a gwella ein henw da yn rhyngwladol o ran rhagoriaeth ymchwil.

Cenhadaeth

Mae'r Ysgol yn hwyluso addysgu ac ymchwil rhagorol drwy amgylchedd bywiog, cydweithredol. Yn frwd dros amrywiaeth a natur drawsddisgyblaethol pensaernïaeth, rydym yn ceisio rhagoriaeth bob amser yn ein hymchwil ac arloesedd o ran addysgu a dysgu ym meysydd dylunio, y celfyddydau, crefftau, y dyniaethau a'r gwyddorau.  Rydym yn meithrin dysgwyr chwilfrydig, creadigol, moesegol, â chanddynt sgiliau beirniadol sy'n gallu cydnabod ac wynebu heriau trwy ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth eang, hyblyg. Rydym yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned gynhwysol sy'n ffynnu ar ei hamrywiaeth ac yn ymestyn y tu hwnt i'r byd academaidd i ymgysylltu â'n bröydd a'r byd ehangach.

Gweledigaeth

Prif nod ein hymchwil ac addysgu sy'n arwain yn rhyngwladol, yw gwneud cyfraniad sylweddol i'r gwaith pontio i amgylcheddau adeiledig cynaliadwy a’r gwaith o’u creu; amgylcheddau a all wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth hefyd ofalu am y blaned

Drwy ddefnyddio dros ganrif o brofiad ym maes addysg bensaernïol a hanes cryf o ragoriaeth o ran dylunio, ymchwil, addysgu a chenhadaeth ddinesig, ein nod hefyd yw parhau ar flaen y gad yn ein maes, yn ysgol pensaernïaeth sydd ar y brig yn y DU ac yn rhyngwladol, a hynny drwy ein hail ganmlwyddiant a thu hwnt iddo.

Ethos

  • Lleol a Byd-eang – mynd i’r afael â heriau byd-eang mewn cyd-destunau trefol a rhanbarthol lleol; hefyd ceisio meithrin perthnasoedd ystyrlon, barhaus drwy addysgu ac ymchwil ym mhob cwr o’r byd
  • Dinesig a Gwreiddedig – mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac amgylcheddol y byd go iawn
  • Cydweithredol a Cholegol – hyrwyddo cryfder amrywiaeth o ran sgiliau ac integreiddio hyn; cyflawni nodau ar y cyd
  • Cynhwysol a gofalgar – gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo lles, a sicrhau bod gwahanol ddiwylliannau a systemau gwybodaeth yn cael eu cydnabod drwy ein cwricwla a'n hymchwil
  • Disgyrsiol ac Ymarferol – Meithrin trafodaethau ac ymchwilio deallusol gan hyrwyddo dysgu wrth wneud trwy greu
  • Arbrofol a Gosodiadol – mynd i'r afael â heriau byd-eang dybryd drwy syniadau dylunio a chreadigrwydd

Pennaeth yr ysgol

Yr Athro Juliet Davis

Yr Athro Juliet Davis

Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Email
davisjp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5497