Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth

Rydym yn hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol i wthio ffiniau technegau cyfrifiadurol, gan gyfrannu at esblygiad amgylchedd adeiledig mwy gwydn ac amgylcheddol ymwybodol.

Rydym yn gweithio ar y groesffordd rhwng cyfrifiannu, pensaernïaeth a threfolaeth, ac yn ystyried y ffyrdd y gall syniadau dylunio algorithmig wella effeithlonrwydd, arloesedd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Rydym yn blaenoriaethu cydweithio ac ymrwymiad i agenda ymchwil flaengar; ymchwilio i gymhwyso technolegau digidol blaengar i ddylunio pensaernïol a threfol a sbarduno datblygiadau mewn methodolegau cyfrifiadurol.

Mae’r meysydd ffocws yn cynnwys dod o hyd i ffurf ddigidol, dulliau dylunio cynhyrchiol, a gwneuthuriad digidol, yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, dadansoddi gofodol, theori graffiau, a dadansoddiad mewn ffordd dopolegol o amgylcheddau pensaernïol a threfol.

Prosiectau

  • Gwella cynrychiolaeth gofod pensaernïol mewn amgylcheddau modelu 3d (02/09/2016 - 20/12/2019)
  • Crefft gyfrifiadurol: Tuag at weithgynhyrchu strwythurau clom gan ddefnyddio argraffu 3D a reolir yn robotig (02/01/2018 - 01/07/2019)

Cyhoeddiadau

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.