Trefolaeth
Mae'r Grŵp Trefolaeth yn cynnal ymchwil flaengar a chydweithredol ar ddamcaniaethau ac arferion ar gyfer trawsnewid dinasoedd
Mae'r Grŵp Trefolaeth yn grŵp cymharol ifanc a deinamig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy'n dwyn ynghyd academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr doethurol amrywiol i rannu ein gwaith, cyfnewid syniadau gwahanol a chydweithio ar ymchwil sy'n symud y maes i gyfeiriadau newydd a chyffrous.
Amcanion
Mae'r grŵp, yn bennaf, yn fforwm ar gyfer cyfnewid deallusol a phrosiectau cydweithredol ar wahanol agweddau ar drefolaeth fel maes dylunio rhyngddisgyblaethol, beirniadol ac ymgysylltiedig.
Mae prosiectau cyfredol a diweddar yn cynnwys:
- "Cyd-Ddylunio Tir Cyhoeddus:" Mynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth systematig ynghylch sut mae tir cyhoeddus yn cael ei ddylunio a hynny trwy brosesau cynhyrchu gofodol yn y parth cyhoeddus, yn arbennig trwy ddefnyddio strategaethau anffurfiol yn ninasoedd y de byd-eang. Mae dinasoedd ymhlith creadigaethau mwyaf dynoliaeth, a gellir dadlau mai'r parth cyhoeddus yw eu hagwedd fwyaf arwyddocaol. Agwedd rymusaf y parth cyhoeddus yw ei allu i gynhyrchu [h.y. "dylunio"] tir cyhoeddus yn fwriadol ac yn greadigol trwy'r broses o'i wneud [h.y. "cynhyrchu"].
- "Dinas Brismatig: Ffordd annisgwyl y mae Las Vegas yn rhoi cipolwg ar wir natur trefolaeth gyfoes:" Beth all dinasoedd eithafol fel Las Vegas ei ddweud wrthym am ddynameg gyfoes trefolaeth? Sut y gall dealltwriaeth ddyfnach a chymhlethach o ddinasoedd arwain at arferion dylunio mwy trawsnewidiol yn wyneb heriau trefol critigol? Mae'r ymchwil yn ystyried bod "trefolaeth eithafol" nid yn unig yn haeddiannol o astudiaeth ddifrifol, ond fel prism ar gyfer ffenomena trefolaeth cyfoes sy'n cyflwyno eu hunain yn glir.
- "Dylunio trawsnewidiad trefol:" Beth yw diben trefolaeth yn y pen draw? Sut y gall prosesau dylunio a chynhyrchion gofodol trefolaeth drawsnewid dinasoedd mewn ffyrdd sylfaenol? Mae'r llyfr yn dadansoddi cyflwr presennol y gelfyddyd o ddylunio a threfoli yn feirniadol, ac yn cynnig dull damcaniaethol ac empirig newydd o gynllunio trawsnewidiad sylfaenol dinasoedd.
- “Gofal am y Ddinas Ailfeddwl trefolaeth a moeseg:" Gan ganolbwyntio ar yr arferion cynllunio, dylunio, adeiladu a rheoli y mae'r ddinas wedi'i strwythuro, ei chreu’n ffisegol a'i chynnal a’i chadw drwyddynt, mae'r llyfr yn ceisio dangos sut mae gofal wedi a heb ei wreiddio mewn amrywiaeth o ffyrdd o wneud yr amgylchedd adeiledig.
- "Etifeddiaeth Gemau Olympaidd Llundain:" Rôl dylunio trefol/pensaernïol mewn adfywio trefol, yn enwedig wrth ddylunio a defnyddio megaddigwyddiadau fel y Gemau Olympaidd wrth drawsnewid dinasoedd, ac wrth drawsnewid tirweddau trefol diwydiannol/ôl-ddiwydiannol.
- "Addysg a threfoli byd-eang:" Mae'r diffyg mynediad at gyfleoedd addysgol yn fwyaf amlwg ar hyn o bryd mewn rhanbarthau o drefoli cyflym ac yn y dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf. Mae rhai o'r heriau mwyaf dybryd i gynllunwyr trefol yn ymwneud â darparu ysgolion yng nghyd-destun trefoli byd-eang.
Lead researcher
Staff academaidd

Michael Corr
Lecturer in Architecture | Module Leader Design Year 3
- corrm1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0990

Yr Athro Juliet Davis
Head of the Welsh School of Architecture
- davisjp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5497

Dr Marga Munar Bauza
Architect-Urbanist
PhD, ARB, FRSA, AoU
Lecturer
- bauzamm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5961

Angela Ruiz del Portal Sanz
Teacher in Sustainable and Urban Design
- ruizdelportala@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6515

Juan Usubillaga
Teaching Associate in Urban Design and Planning
- usubillaganarvaezj1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0943
Myfyrwyr Ôl-raddedig
Mae'r Grŵp Trefolaeth yn cynnal digwyddiadau rheolaidd, megis cyflwyniadau gan ysgolheigion a myfyrwyr doethurol, ar eu gwaith diweddar, er mwyn hwyluso deialog. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys sgyrsiau gan westeion nodedig sy'n cael eu noddi gan y Grŵp Trefolaeth ond sydd ar agor i gymuned Ysgol Pensaernïaeth Cymru, fel y sgwrs gan yr Athro Colin McFarlane ar "Ddwysedd Ailboblogi? Gwleidyddiaeth Gwybodaeth, Covid-19 a'r Ddinas."
Ceir hefyd ddigwyddiadau llai a mwy ymarferol, fel "Ymchwil ar gyfer cyllid ar drefoli." Yn y sgwrs hon, trafododd tri chydweithiwr eu profiadau wrth wneud cais am gyllid, ei gael a'i wario. Nod y sgwrs oedd dysgu oddi wrth ei gilydd a chymhwyso'r gwersi hyn er mwyn bod yn fwy effeithiol wrth gael gafael ar gyllid ar gyfer ymchwil mewn trefolaeth.