Diwylliant ymchwil
Mae gennym ddiwylliant ymchwil cydlynol a chynaliadwy sy'n cefnogi staff a myfyrwyr ar bob cam o'u gyrfa.
Mae ein hethos 'creadigrwydd ar sail gadarn' yn ategu'r holl ymchwil ac addysgu yn ein Hysgol. Rydym wedi ymrwymo'n barhaus i ymgysylltu â phroblemau byd go iawn, ac yn ceisio creu amgylchedd adeiledig sy'n gwella bywydau pobl, heb niweidio'r blaned.
Mae ein gwaith cydweithredol gyda diwydiant, cyrff cyhoeddus a chymunedau'n ein galluogi i rannu arbenigedd a chyflawni targedau a dyheadau a rennir ym mhob maes ymchwil.
Mae gennym raglen ddynamig o ddigwyddiadau sy'n fwrlwm y flwyddyn, gan gynnwys seminarau, gweithdai ac arddangosfeydd.