Ewch i’r prif gynnwys

Graddau Baglor

Gelwir gradd baglor hefyd yn radd ‘gyntaf’ neu ‘gyffredin’, a bydd yn cynnig dealltwriaeth drylwyr i chi o’r cwrs rydych chi’n ei astudio, yn ogystal â darparu sgiliau allweddol fydd yn gymorth i chi yn eich gyrfa broffesiynol.

Cwrs astudio sy’n cymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau yw gradd baglor, gan ddibynnu a ydych chi’n dewis astudio cwrs sy’n cynnwys blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant.

Rydym ni’n cynnig nifer o wahanol fathau o raddau baglor. Nodwch fod rhai ysgolion academaidd yn cynnig mwy nag un math o radd.

Rydym yn cynnig ystod amrywiol a chyffrous o raddau Cydanrhydedd ac Integredig.

BA

Dyfernir Baglor yn y Celfyddydau i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau yn y celfyddydau breiniol neu’r dyniaethau. Fe’i dyfernir yn yr Ysgolion canlynol:

BSc

Dyfernir Baglor yn y Gwyddorau i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau yn y gwyddorau. Fe’i dyfernir yn yr Ysgolion canlynol:

BDS

Dyfernir Baglor mewn Deintyddiaeth i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau mewn deintyddiaeth. Fe’i dyfernir yn yr Ysgolion Deintyddiaeth a Gofal Iechyd.

BEng

Dyfernir Baglor mewn Peirianneg i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau mewn peirianneg. Fe’i dyfernir yn yr
Ysgol Peirianneg.

BScEcon

Dyfernir Baglor mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol i fyfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau mewn economeg a'r gwyddorau cymdeithasol. Fe'i dyfernir yn yr Ysgolion Busnes, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

BMid

Dyfernir Baglor mewn Bydwreigiaeth i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau mewn bydwreigiaeth. Fe’i dyfernir yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

BN

Dyfernir Baglor mewn Nyrsio i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau mewn nyrsio. Fe’i dyfernir yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

MBBCh

Dyfernir Baglor mewn Meddygaeth, Baglor mewn Llawfeddygaeth i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau mewn meddygaeth. Mae’r rhain fel arfer yn cymryd pump neu chwe blynedd i’w cwblhau ac fe’u dyfernir gan yr Ysgol Meddygaeth

LLB

Dyfernir Baglor yn y Gyfraith i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau yn y gyfraith. Fe’i dyfernir yn yr Ysgolion hyn: y Gyfraith, Ieithoedd Modern, Gwyddorau Cymdeithasol, a Chymraeg.