Israddedig
Gwyddor gymdeithasol yw astudio cymdeithas, a'r modd y mae pobl yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar y byd.
Bydd yr hyn a astudiwch gyda ni yn ymwneud yn uniongyrchol â digwyddiadau yn y byd heddiw, a bydd yn eich galluogi i ddeall a chyfrannu at ddadleuon cyfoes mewn ffordd wybodus. Mae Gwyddor Gymdeithasol yn helpu i esbonio sut mae cymdeithas yn gweithio - pam y caiff troseddau eu cyflawni, sut mae ysgolion yn cefnogi twf economaidd, sut caiff cymunedau eu ffurfio, beth sy'n gwneud pobl yn hapus.
Rydym yn ganolfan rhagoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn ymchwil ac addysgu. Addysgir ein cyrsiau gan ymchwilwyr sydd yn flaenllaw yn eu pynciau.Mae eu harbenigedd a'u mewnwelediad yn llywio llywodraethau a llunwyr polisi yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae rhyw 300 o israddedigion yn ymuno â'r Ysgol bob blwyddyn. Ni yw un o'r canolfannau gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol a gweithredol o ran ymchwil mwyaf yn y DU. Mae pob un o'n cyrsiau israddedig yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn dulliau ymchwil gwyddor gymdeithasol, ac ymgysylltu ag ymchwil ryngddisgyblaethol.