Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i gyllid Cymru flwyddyn nesaf ond toriadau i gynlluniau gwariant yn y blynyddoedd i ddilyn, yn ôl adroddiad cyllideb newydd

5 Mawrth 2021

Money and graph

Ar ôl hwb pellach i’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn delio â'r pandemig, bydd toriadau i wariant nad yw’n ymwneud â’r pandemig o 2021-22 ymlaen yn lleihau’r cynnydd a gaiff ei ragamcan ar gyfer cyllideb Cymru o tua £600 miliwn y flwyddyn.

Mae papur briffio Dadansoddiad Cyllid Cymru ar y gyllideb, a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dadansoddi'r effaith y bydd cyllideb y DG yn ei chael ar Gymru. Mae'r dadansoddiad yn amcangyfrif bod y £735m ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru yn dod â chyfanswm y cyllid sydd ar gael i ddelio â Covid-19 y flwyddyn nesaf i bron i £2 biliwn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud dyraniadau mawr i'r GIG, y gronfa caledi llywodraeth leol a phecyn rhyddhad ardrethi busnes.

Ond ar sail y cynlluniau presennol, bydd gwasgfa ariannol i ddilyn ar ôl yr hwb cyllidol hwn. Mae penderfyniad Llywodraeth y DG i gwtogi ar y cynlluniau gwariant a osodwyd cyn y pandemig o 2021-22 ymlaen yn lleihau’r cynnydd a gaiff ei ragamcan ar gyfer cyllideb Cymru o tua £600 miliwn y flwyddyn.

Mae'r dadansoddiad yn nodi rhai o’r effeithiau cadarnhaol yn y tymor-byr o ymestyn y cynnydd i Gredyd Cynhwysol, sydd o fudd i 21% o aelwydydd Cymru, yn ogystal â’r cynllun ffyrlo, sy'n lleihau'r lefelau o ddiweithdra a gaiff ei ragamcan.

Mae'r adroddiad hefyd yn canfod y bydd refeniw treth incwm datganoledig yn cynyddu'n sylweddol o'i gymharu â rhagolygon blaenorol, a bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gyllideb Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd Guto Ifan, ymchwilydd ar raglen Dadansoddi Cyllid Cymru:

"Mae’r hwb o £735m i gyllid Llywodraeth Cymru yn newyddion da, ond y newyddion llai cadarnhaol ydy bod disgwyl gwasgfa gyllidol sylweddol o £600m yn y blynyddoedd canlynol, o'i gymharu â chynlluniau gwariant cyn y pandemig – rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw hyd yn hyn.

"Mae toriadau i gynlluniau gwariant blaenorol yn peri pryder o ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar restrau aros hir y GIG, y gefnogaeth ymysg y cyhoedd i gynyddu cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac effaith Covid-19 ar sectorau mwyaf difreintiedig cymdeithas. Yn anffodus, doedd dim ymgais yn y gyllideb hon i ddelio gyda’r materion hyn.

"Mae ein dadansoddiad yn canfod bod buddsoddiadau uniongyrchol ychwanegol Llywodraeth y DG ar gyfer Cymru a gafodd eu cynnwys yn y gyllideb, fel y Bargeinion Dinesig a chronfeydd newydd ar gyfer y DG, yn gymharol fach mewn termau cyllidol, ac yn cyfateb i lai na 0.1% o'r GDP − er y byddan nhw’n cael eu croesawu gan gymunedau penodol.

"Ond dylai'r ddadl ehangach cyn yr etholiad ym mis Mai ymwneud â dyfodol cyllid cyhoeddus yng Nghymru a'r hyn y gall Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud i sicrhau adferiad gwirioneddol mewn gwasanaethau cyhoeddus a’r economi."

Rhannu’r stori hon