Ewch i’r prif gynnwys

Awdurdodau lleol Cymru yn wynebu bwlch ariannu sylweddol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd

16 April 2021

Money and graph

Yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, bydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn brin o’r hyn fydd ei angen i gwrdd â phwysau gwario dros dymor nesaf y Senedd, yn seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol Llywodraeth y DG.

Yn ôl y dadansoddiad, mae awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu o £178 miliwn yn 2022−23, a diffyg o £132 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2023−24 a 2025−26 − her sylweddol i'r llywodraeth nesaf.

Ond os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ailgyfeirio rhai o adnoddau'r gyllideb i ariannu costau effeithiau Covid-19 ar y GIG – fel cost lleihau’r rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau dewisol – gallai'r rhagolygon ar gyfer llywodraeth leol fod yn llawer gwaeth. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu posibl o £607 miliwn y flwyddyn nesaf, a diffyg cyfartalog o £362 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd ddilynol.

Mae'r adroddiad yn ystyried effeithiau demograffeg a chwyddiant, yn ogystal â chostau parhaus sy'n gysylltiedig â'r pandemig. Mae'n canfod y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol am 55% o holl wariant awdurdodau lleol erbyn 2025−26.

Dywedodd Cian Siôn, ymchwilydd ar brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru:

"Er bod mwy nag £1 biliwn wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol i'w helpu gyda’u hymateb i'r pandemig yn ystod 2020−21, o'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd cynlluniau gwariant y llywodraeth yn fwy llym.

"Er y bydd y grant bloc yn tyfu mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf, mae'r galw cynyddol am wasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a phwysau sylweddol yn sgil y pandemig yn golygu rhagolwg heriol ar gyfer cyllideb Cymru ac awdurdodau lleol. Bydd yr her hon yn dechrau ar unwaith gyda bwlch ariannu sylweddol y flwyddyn nesaf, yn seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol Llywodraeth y DG."

Yn ogystal â rhagamcanu pwysau gwario dros y blynyddoedd nesaf, mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi tueddiadau mewn cyllid llywodraeth leol dros y degawd diwethaf.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod gwariant awdurdodau lleol wedi cwympo o 9.4% y pen rhwng 2009−10 a 2019−20, sy’n cyfateb i £220 y person. Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod y Dreth Gyngor bellach yn cyfrannu canran sylweddol uwch o’r hyn syn cael ei gasglu drwy dreth yng Nghymru (5.4%) o’i gymharu â Lloegr (4.3%) a'r Alban (3.8%).

Ychwanegodd Cian Siôn:

"Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y bydd cynnydd yn y Dreth Gyngor yn debygol o barhau yn uwch na chwyddiant dros y blynyddoedd nesaf. Yn ein model, rydym yn tybio cynnydd blynyddol o 4.5% rhwng 2022−23 a 2025−26, a dydy hynny hyd yn oed ddim yn ddigon i ateb y pwysau ariannol yn llawn.

"Mae hyn yn cryfhau'r ddadl o blaid ailystyried y ffordd y mae'r system drethu leol yn gweithredu yng Nghymru. Go brin fod unrhyw bolisi sy'n ddibynnol ar gynnydd blynyddol uwch-na-chwyddiant i’r Dreth Gyngor yn ffordd gynaliadwy o ariannu awdurdodau lleol yn y tymor hir."

Rhannu’r stori hon