Ewch i’r prif gynnwys

Covid-19 i roi pwysau ariannol ar y GIG am flynyddoedd i ddod, yn ôl adroddiad newydd

9 Ebrill 2021

Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn awgrymu y bydd llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd o ganlyniad i’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd ar ôl pandemig a chynlluniau gwariant Llywodraeth y DG.

Yn ôl yr adroddiad, mae bwlch sylweddol rhwng y cyllid fydd yn deillio o wariant iechyd gan Lywodraeth y DG yn Lloegr a’r pwysau cyllidol fydd yn wynebu’r GIG yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys costau delio gyda chanlyniadau Covid-19. Gallai’r diffyg cyllidol hwn fod cymaint â £740 miliwn yn 2022-23, a £360 miliwn ar gyfartaledd rhwng 2023-24 a 2025-26.

Yn ogystal ag asesu gwariant ar y GIG cyn y pandemig a’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd gan boblogaeth sy’n heneiddio, mae’r adroddiad yn dadansoddi’r pwysau ariannol sylweddol ar y GIG yn ystod cyfnod y Senedd nesaf. Ystyrir ffactorau megis:

  • Costau uniongyrchol Covid-19 dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys costau’r rhaglen Profi Olrhain a Diogelu a’r posibilrwydd o ail-frechiadau yn y dyfodol;
  • Colledion o ran cynhyrchiant yn y GIG oherwydd ymbellhau cymdeithasol a gofynion mwy llym er mwyn rheoli heintiau;
  • Costau delio gyda’r cynnydd mewn rhestrau aros;
  • Pwysau newydd ar y GIG, megis ar wasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r adroddiad hefyd yn manylu ar sut y dyrannodd Llywodraeth Cymru £1.4 biliwn ychwanegol i’r GIG yn 2020-21 er mewn ymateb i Covid-19.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod costau cyfarpar diogelu personol (PPE) ac elfen ddatganoledig y system brofi ac olrhain yng Nghymru (£533 miliwn) yn llai na hanner lefel y cyllid a ddeilliodd o wariant Lloegr ar PPE a phrofi ac olrhain (£1,084 miliwn). Roedd y costau yma rhyw £158 y pen yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.

Hyd yn hyn, mae £440 miliwn wedi’i ddyrannu i’r GIG ar gyfer costau Covid-19 yn ystod chwe mis cyntaf 2021-22. Ond bydd costau uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig yn parhau ymhell tu hwnt i hyn.

Dywedodd Guto Ifan, ymchwilydd o raglen ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru:

“Er bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddelio â phwysau ariannol y GIG eleni, yn wyneb y pwysau gwariant sylweddol sy’n debyg o ddod i’r amlwg ar ôl y pandemig, mae’r rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn rhai go llwm.

“Nid yw cynlluniau gwariant Llywodraeth y DG yn cynnwys unrhyw gyllid ar gyfer delio â Covid-19 ar ôl 2021-22, ac maent yn tybio bydd gwariant ar y GIG yn Lloegr yn dychwelyd i’r cynlluniau gwariant a osodwyd cyn Covid-19 y flwyddyn nesaf.

“Byddai pasio ‘mlaen y cyllid sy’n deillio o wariant iechyd yn Lloegr ddim yn ddigon i ddelio â phwysau cyllido’r GIG yng Nghymru ar ben ei hun. Ond byddai hyn yn oed hynny’n dal i olygu toriadau ar gyfer rhan fwyaf o feysydd eraill y gyllideb yn 2022-23.

“Bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru bwyso a mesur yr angen i ddelio â’r pwysau ychwanegol hyn a’r heriau ariannol enfawr mewn rhannau eraill o’r gyllideb. Dylid hefyd ystyried y posibilrwydd o wneud defnydd o’r pwerau dros drethi datganoledig.”

Rhannu’r stori hon