Ewch i’r prif gynnwys

Nederland Beslist | Yr Iseldiroedd yn Penderfynu 2021: Sesiwn Briffio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru

8 Mawrth 2021

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal gweminar ar etholiadau’r Iseldiroedd 2021, gan edrych ar effaith pandemig COVID-19 a’r clymbleidiau posibl fydd yn llywodraethu’r wlad.

Gyda Chymru hefyd ar fin cynnal etholiad cenedlaethol yn ystod y pandemig, a’r posibilrwydd o lywodraeth glymblaid arall ym Mae Caerdydd, gallwn gael dealltwriaeth o’r sefyllfa yn y drafodaeth hon gyda’n cymdogion agos.

Bydd Dr Ed Gareth Poole, darlithydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru yn cadeirio panel sy’n cynnwys Daniëlle van Osch, Prifysgol Leiden, Robert van Geffen o Fanc Canolog yr Iseldiroedd, a Jeroen Romeijn o Brifysgol Leiden.

Cynhelir y gweminar wrth i bawb fynd i bleidleisio ddydd Mawrth, 16 Mawrth am 17:00 (amser Cymru). Cewch ragor o fanylion cofrestru yma.

Het Centrum voor Welshe Bestuur van Cardiff University zal een webinar houden over de Nederlandse verkiezingen van 2021, waarin wordt gekeken naar de impact van de Coronapandemie en de mogelijke coalities die het land zullen regeren.

Nu Wales ook op het punt staat om tijdens de pandemie nationale verkiezingen te houden, en de mogelijkheid van een nieuwe coalitieregering in Cardiff Bay, zullen er ongetwijfeld inzichten worden getrokken uit deze discussie met onze naaste buren.

Dr. Ed Gareth Poole, docent van het Centrum voor Welshe Bestuur, zal een panel voorzitten met Daniëlle van Osch van de Universiteit Leiden, Robert van Geffen van de Nederlandsche Bank en Jeroen Romeijn van de Universiteit Leiden.

Het webinar vindt plaats terwijl kiezers op dinsdag 16 maart om 17.00 uur (Wales-tijd) naar de stembus gaan. Registratiegegevens zijn hier te vinden.

Rhannu’r stori hon