Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Forol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

  • Côd UCAS: F848
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae moroedd ac arfordiroedd y byd yn llawn cynefinoedd a bywyd gwych anhygoel ac maen nhw’n cynnal nifer o ddiwydiannau pwysig ac sy’n tyfu gan gynnwys morgludiant, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy. Fel daearyddwr morol bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gadw ein moroedd yn iach a byddwch yn helpu i sicrhau bod y diwydiannau morol traddodiadol a newydd yn gynaliadwy.

Fel yr unig radd Daearyddiaeth Forol yn y DU, byddwch yn astudio cymysgedd unigryw o ddaearyddiaeth ffisegol ac amgylcheddol. Byddwch yn archwilio'r wyddoniaeth y tu ôl i'r berthynas rhwng cymdeithas a'r môr ac yn ymchwilio i heriau byd-eang fel asideiddio'r cefnfor a lefelau'r môr yn codi.

Rydyn ni'n gwneud y gorau o'n lleoliad ac yn mynd ar deithiau rheolaidd i Fôr Hafren, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Phenrhyn Gŵyr. Bydd cyfle am deithiau tramor hefyd yn y gorffennol rydym wedi bod i Malta, Jersey a Groeg. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel arolygu ar y môr, monitro ansawdd y dŵr, mapio ecolegol a phroffilio traethau.

Ar y rhaglen bedair blynedd hon, gallwch dreulio un flwyddyn academaidd yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan ddysgu'r gwahanol arddulliau ac ymagweddau at eich pwnc mewn gwlad arall ac archwilio amgylcheddau ffisegol, tirweddau ac arfordiroedd newydd. Mi gewch gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd o bob cwr o'r byd. Hefyd, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau bywyd a chryfderau a fydd yn eich helpu i gystadlu mewn gweithle cynyddol fyd-eang, megis gallu i addasu, dyfeisgarwch a gwytnwch.

Mae Prosiect Aildyfu Borneo yn eich galluogi i wrthbwyso’r carbon a gaiff ei allyrru wrth hedfan drwy wneud rhodd fforddiadwy i gefnogi ein prosiect plannu coed yng nghoedwig law Lower Kinabatangan, Sabah, Borneo.

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn poeni am iechyd y cefnforoedd ac eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae graddedigion yn gadael gyda'r sgiliau i ddatrys ystod o broblemau amgylcheddol morol cymhleth a chyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil arloesol gyda gwyddonwyr rhyngwladol blaenllaw.

globe

Year abroad

Learn while you travel and experience the landscapes or coastlines, education and culture of a different country with the opportunity to complete a year studying at a university abroad.

briefcase

Strong connections

Our excellent links to local organisations, such as Natural Resources Wales and the Severn Estuary Partnership, helps our students to find projects and placement opportunities.

location

High quality facilities

Access the latest technologies in offshore surveying and mapping equipment, chemical laboratories, labs with GIS, and a 12-metre research boat.

globe

Fieldwork opportunities

Regular field trips in the UK and overseas will help you to develop strong fieldwork skills. The cost of field trips is included in your course fees.

certificate

Professionally accredited

This course is accredited by the RICS which means that we have the recognition of a professional body. Accreditation is important when you start your career and it will help you obtain chartered status in your profession.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth HL) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth HL). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae costau’r gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os yw wedi’i ddarparu yn ystod y daith. Bydd angen i chi dalu am fodiwlau gwaith maes dewisol. Bydd cost y teithiau hyn yn cael ei gapio ar swm a bennir gan yr ysgol.

Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys teithio a ffioedd gwneud cais am a fisa. Mae cefnogaeth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau tramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn darparu bwrsariaeth i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad tramor.  Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau pan fyddwch chi'n ystyried eich opsiynau blwyddyn astudio dramor.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon. Byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn dysgu sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol yn eich blwyddyn gyntaf. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn pedwar, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi. Treulir eich trydedd blwyddyn yn astudio mewn prifysgol bartner mewn gwlad arall.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Year of Study AbroadEA3300120 credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Identification of zooplankton in water samples on Samos
Identification of zooplankton in water samples on the Greek island of Samos.

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

Bydd sut y cewch eich addysgu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr. Byddwch yn edrych yn fanwl ar ddulliau addysgu yn eich sefydliad cynnal ac yn trafod y rhain gyda Chyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol fel rhan o'ch proses ymgeisio a'ch cytundeb dysgu Astudio Dramor.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Tiwtor Personol i chi y byddwch yn cwrdd ag ef yn rheolaidd ar gyfer sesiynau tiwtorial. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a phedwar. Gall eich Tiwtor Personol gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Bydd cefnogaeth academaidd ar gyfer y flwyddyn astudio dramor yn cael ei darparu i chi yn ystod eich ail flwyddyn gan Gyfarwyddwr Rhyngwladol Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd a chyngor cynllunio gan gydweithwyr yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang. Rhoddir cyngor ynghylch dewis prifysgol, nodau'r flwyddyn, rheoliadau academaidd a dewis modiwl gan y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, a fydd ar gael i drafod syniadau, pryderon a materion gyda chi.

Mae Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang i'ch cefnogi chi i wneud cais i'r brifysgol gynnal, i ddarparu cyngor ar gyllid, fisâu a'r holl drefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Bydd Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu sesiwn cyn gadael ac yn darparu pecyn cyn gadael a fydd yn cynnwys arweiniad defnyddiol. Bydd aelodau staff y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn cwrdd â chi i adolygu a chytuno ar eich cyrsiau dramor fel rhan o gadarnhau eich Cytundeb Dysgu Astudio Dramor.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi adolygu'r dulliau addysgu, canlyniadau dysgu ac asesu yn y brifysgol bartner a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn briodol i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes dulliau asesu sy'n newydd i chi, byddwn yn eich cefnogi i fod yn barod am hyn.

Un o ofynion y modiwl Blwyddyn Astudio Dramor yw eich bod yn cwblhau cyfnodolyn myfyriol ar-lein ac yn cwrdd i drafod hyn yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hyn yn y bydd gennych gyfarfod misol strwythuredig a gofynnol gyda'ch Tiwtor Personol Prifysgol Caerdydd i'ch galluogi i adolygu cynnydd eich astudiaeth ac i godi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu anghenion. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Tiwtor Personol neu'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn ôl yr angen.  Bydd gennych fynediad i adnoddau ar-lein llawn Prifysgol Caerdydd a'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr tra byddwch dramor.  Mae gwasanaethau cymorth cynhwysfawr Undeb y Myfyrwyr hefyd ar gael ichi gydol yr amser. 

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio gyda chi a gyda'u cyswllt yn y Sefydliad Partner i ddatrys unrhyw broblemau gyda'r Sefydliad partner ei hun, gan dynnu ar gefnogaeth gan Global Opportunities lle mae partneriaethau ledled y Brifysgol, fel sy'n briodol.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bynnag y bo’n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan y wefan Dysgu Canolog hefyd fodiwl ‘Cynllunio Datblygiad Personol’ sy’n eich cefnogi chi wrth asesu eich cynnydd a diwallu eich anghenion datblygu’n rheolaidd.

Gwasanaethau cymorth

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, tueddfryd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. . Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-environmental-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.  

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dealltwriaeth systematig o brosesau gofodol ac amserol sy'n ymwneud ag amgylcheddau morol ac arfordirol, a dealltwriaeth eang, feirniadol o'r rhyngberthynas rhwng systemau cefnfor, arfordirol a dalgylch
  • Dealltwriaeth eang o adnoddau morol ac arfordirol a heriau byd-eang cysylltiedig, gan gynnwys dulliau o’u llywodraethu 
  • Dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Forol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i integreiddio gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gwyddorau cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadlau, dehongli ac egluro achosion, graddfeydd ac effeithiau materion amgylcheddol morol cyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol.
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag amgylcheddau morol ac arfordirol, gan fanteisio ar ddulliau perthnasol mewn meysydd cytras o wyddorau amgylcheddol.
  • Gwerthuso ymchwil gyfredol ar agweddau dethol ar yr amgylchedd morol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth wyddonol gysylltiedig.
  • Gweithio ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall yr amgylchedd morol gan gynnwys ei berthynas â chymdeithas

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd morol fel rhan o brosesau ymchwil i ymchwilio i ystod o faterion amgylcheddol morol amserol a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a gweithredu ymchwil sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd morol ac arfordirol, gan ddefnyddio'n feirniadol ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, alltraeth, labordy a desg.
  • Deall a chymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio llwyfannau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, anghyflawn ac ansicr yn aml gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Arddangos sgiliau a chymhwysedd sylfaenol mewn GIS, dadansoddiad ystadegol cartograffig a sylfaenol
  • Cymhwyso technegau dadansoddol TG, GIS, cartograffig ac ystadegol priodol i ystod o ymholiadau daearyddol
  • Ymgymryd â sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol trwy weithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm
  • Deall a chyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch ac agweddau moesegol casglu data mewn amgylcheddau morol ac arfordirol, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Yr hyblygrwydd, y meddwl agored a'r gallu i fynd at bwnc o wahanol safbwyntiau, y gellir ei ennill yn y flwyddyn astudio dramor.
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Dealltwriaeth o'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod o hyd i waith a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a’r gallu i gymhwyso hyn i hunan-fyfyrio, asesu a mynegi sgiliau ac anghenion cyflogadwyedd unigol.
Marine Geography students carrying out survey work during field course in Jersey
Marine Geography students carrying out survey work during a field course in Jersey.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae cadw ein moroedd yn iach yn hanfodol i’n dyfodol. Mae'r môr yn cynhyrchu tua hanner yr holl ocsigen rydym yn anadlu ac mae’n amsugno hanner yr holl garbon deuocsid o waith dyn. Mae angen sgiliau a gwybodaeth daearyddwyr morol i fynd i’r afael â heriau heddiw ac yfory i’r moroedd, nid yn unig i sicrhau bod cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig yn cael eu diogelu ond hefyd i sicrhau bod diwydiannau morol fel pysgota, twristiaeth, morgludiant ac ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu’n gynaliadwy.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau a rolau gan gynnwys cadwraeth a rheoli morol, fel ymgynghorydd amgylcheddol neu ddadansoddwr geo-ofodol morol. Bydd gennych hefyd nifer o sgiliau y mae sectorau eraill fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio’n chwilio amdanynt.

Mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio i ystod eang o gyflogwyr yn y DU ac ymhellach i ffwrdd. Mae cyflogwyr diweddar yn cynnwys y Swyddfa Hydrograffig, Titan Environmental Surveys, Asiantaeth yr Amgylchedd, yn y sector porthladdoedd a sefydliadau cadwraeth morol ledled y byd.

Roedd 95% o'n graddedigion a raddiodd am y tro cyntaf mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg o Ddeilliannau Graddedigion 2017/18).

Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data.

Lleoliadau

Oes.  Y cyfle i ymgymryd â lleoliad astudio ym mlwyddyn tri mewn sefydliad partner mewn gwlad arall.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cyfleoedd astudio ar gael mewn prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Sweden a'r Iseldiroedd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth