Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Agored Israddedig

Os ydych chi'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dewch i ddarganfod bywyd myfyrwyr mewn diwrnod cyffrous llawn profiadau, sesiynau gwybodaeth a theithiau.

Digwyddiadau ar y gweill

Byddwn ni’n cynnal cyfres o weminarau ar bynciau penodol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd cyfle ar gael i ofyn cwestiynau i’r staff.

Gweld gweminarau israddedig

Diwrnodau Agored

Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru, a hynny yn ein Diwrnodau Agored nesaf:

  • Dydd Gwener 27 Mehefin 2025
  • Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025
  • Dydd Sadwrn 13 Medi 2025
  • Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025

Cofrestrwch i ymuno â’n rhestr bostio i gael gwybod pryd y bydd modd i chi gadw eich lle.

Beth i’w ddisgwyl

Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Bydd y digwyddiad arbennig yma'n rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad hyderus am eich dyfodol.​

Darllenwch ein tudalennau gwybodaeth i ymwelwyr a cynllunio eich diwrnod i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gyrraedd Caerdydd a theithio o amgylch y campws.

Darllenwch raglen ein Diwrnod Agored i gael gwybod beth i’w ddisgwyl yn ein digwyddiad nesaf.

Darllenwch raglen ein Diwrnod Agored

Beth i’w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored

Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Bydd y digwyddiad arbennig yma'n rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad hyderus am eich dyfodol.​

Gallwch chi:

  • grwydro o amgylch ein campysau
  • siarad â'n myfyrwyr i gael syniad go iawn o sut beth yw bywyd myfyriwr
  • cwrdd â'n hacademyddion a'n staff cymorth
  • dysgu rhagor am ein cyrsiau
  • gweld sut le yw ein neuaddau preswyl
  • gweld sut beth yw'r ardal leol a byw yng Nghaerdydd

Pam astudio gyda ni?

Ewch ar daith fideo dan arweiniad myfyrwyr i weld mwy o'n campws, a dysgwch mwy am yr opsiynau astudio sydd ar gael i chi.

Byw yng Nghaerdydd

Dewch i wybod am yr hyn sy’n gwneud prifddinas Cymru mor ddeniadol.

Pam dewis Caerdydd

Darganfyddwch pam y dylech ddewis Prifysgol Caerdydd.

Student support - contact us

Archwilio’r pynciau

Dewch i wybod rhagor am yr ystod o bynciau rydyn ni’n eu cynnig.

Ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am ein campws

Dyma rai o’r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael blas ar sut beth fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Students on their laptops

Gweminarau israddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Teithiau ar gyfer is-raddedigion o amgylch y campws

Beth am gael gwybod rhagor am y Brifysgol a chael blas ar fywyd y campws yn ystod taith gerdded?

Taith rithwir o amgylch y campws

Dysgwch am ein campysau a'n dinas a chael golwg 360 gradd ar ein llety.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’n timau israddedig.