Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngwladol

Yn groesawgar ac yn uchelgeisiol, mae Caerdydd yn Brifysgol fyd-eang go iawn sy'n canolbwyntio ar ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Gyda thros 7,530 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 130 o wledydd a chysylltiadau ffurfiol gyda mwy na 300 o sefydliadau ar draws y byd, mae partneriaethau rhyngwladol yn rhan annatod o'n gwaith. Mae ein diwylliant yn annog cyfnewid a chydweithrediadau rhyngwladol.

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.

Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio gyda phartneriaid ledled y byd i ymdrin â phroblemau byd-eang difrifol fel mynediad dibynadwy at ddŵr yn Affrica.

Ymunwch â chymuned fywiog ein myfyrwyr rhyngwladol. Dysgwch sut mae cyflwyno cais i astudio yn ein prifddinas gosmopolitaidd.

Newyddion

Cymuned ryngwladol sy'n amrywiol ac ysbrydoledig

Mae ein cysylltiadau â mwy na 200 o sefydliadau rhyngwladol yn golygu bod dros 17% o'n hisraddedigion yn astudio, gweithio neu'n gwirfoddoli dramor.

We have a thriving international community with over 7,000 students and 25% of our academic staff choosing Cardiff for study, research or work.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau ac arian ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio gyda ni.

Right quote

Mae ein cymuned ryngwladol yn gwneud cyfraniad aruthrol at lwyddiant y Brifysgol a dinas Caerdydd. Mae'r amrywiaeth hon yn meithrin creadigrwydd ac arloesedd, ac mae'n rhan hollbwysig o'n diwylliant.

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd