Ewch i’r prif gynnwys

Statws ffioedd

Mae’n bwysig gwybod eich statws ffioedd dysgu gan mai hyn sy’n pennu eich ffioedd dysgu blynyddol a’r gefnogaeth ariannol y gallech fod yn gymwys ar ei chyfer.

Gall eich ffi statws fod yn un or canllynol:

Mae eich statws ffioedd fel arfer yn seiliedig ar

  • eich statws mewnfudo
  • eich statws preswylio yn y wlad rydych fel arfer yn byw ynddi (y wlad lle rydych yn ‘preswylio fel arfer’) cyn dechrau eich cwrs.

Byddwn yn defnyddio'r canllawiau a ddarperir gan UKCISA wrth bennu eich statws ffioedd.

Cartref

Rydych yn debygol o fod â statws ffioedd 'cartref' (a elwid gynt yn ‘DU’) os ydych yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:

  • mae gennych statws ‘preswylydd sefydlog’ yn y DU (mae hyn yn golygu nad ydych yn destun unrhyw gyfyngiadau mewnfudo)
  • eich bod wedi byw yn y DU fel eich preswylfa arferol am dair blynedd cyn i chi ddechrau eich cwrs
  • byddwch yn preswylio yn y DU ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs (sef 1 Medi ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi)
  • rydych yn y DU am resymau ar wahân i addysg amser llawn.

Os ydych yn wladolyn o'r UE, yr AEE neu'r Swistir, neu os ydych yn byw yn y tiriogaethau hynny, mae'n debygol y byddwch yn cael statws ffi 'tramor'. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael statws ffi 'cartref' os bydd unrhyw un o'r meini prawf canlynol yn berthnasol:

Os ydych yn wladolyn o'r UE, yr AEE, y Swistir neu Dwrci sy'n byw yn y DU, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael statws ffioedd y DU.

Bydd hyn yn dibynnu ar ddyddiad dechrau eich cwrs ac os ydych yn bodloni'r gofynion i dalu ffioedd 'cartref'.

Myfyrwyr sy'n dechrau cyn 1 Awst 2021

Ar gyfer gwladolion o'r UE, yr AEE a'r Swistir sydd wedi dechrau neu sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Awst 2021, bydd y rheolau presennol ar gyfer ffioedd 'cartref' a chymorth ariannol yn berthnasol o hyd.

Os ydych eisoes yn gymwys i dalu cyfradd ffioedd dysgu 'cartref', byddwch yn parhau i wneud hynny drwy gydol eich cwrs.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan UKCISA.

Myfyrwyr sy'n dechrau o 1 Awst 2021 ymlaen

Efallai y bydd gennych statws ffioedd 'cartref' os ydych yn gymwys, yn rhan o'r hawliau y cytunwyd arnynt i ddinasyddion o dan un o'r gwahanol gytundebau ymadael yn un o'r categorïau canlynol:

  • gwladolion yr UE, y Swistir a gwledydd eraill yr AEE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • aelodau o deulu gwladolion y DU
  • aelodau o deulu pobl perthnasol o Ogledd Iwerddon
  • plant gwladolion y Swistir
  • plant gweithwyr o Dwrci a’r AEE
  • dinasyddion Prydain ac Iwerddon o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Nodwch y bydd gofynion preswylio’n berthnasol. Mae'r rhain yn mynnu eich bod wedi byw mewn gwlad neu ranbarth benodol am dair blynedd cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Bydd y rhanbarth yn dibynnu ar ba un o'r categorïau uchod rydych yn perthyn iddo. Gall gofynion eraill hefyd fod yn berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan UKCISA.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael statws ffi'r DU os ydych yn un o'r categorïau canlynol:

  • Gwladolyn y DU sy'n byw yn yr AEE a'r Swistir
  • Gwladolion y DU a'r UE sy'n byw yn Gibraltar
  • Gwladolion y DU sy'n bw yn y tiriogaethau tramor.

Nodwch y bydd gofynion preswylio’n berthnasol. Mae'r rhain yn mynnu eich bod wedi byw mewn gwlad neu ranbarth benodol am dair blynedd cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Bydd y rhanbarth yn dibynnu ar ba un o'r categorïau uchod rydych yn perthyn iddo. Gall gofynion eraill hefyd fod yn berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan UKCISA.

Gwladolion o'r UE, AEE, y Swistir nad ydynt yn byw yn y DU

O 1 Awst 2021 ymlaen, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwladolion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd sy'n dymuno astudio yng Nghymru. Mae hyn o ganlyniad i ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Ynysoedd

Rydych yn debygol o fod â statws ffioedd ‘Ynysoedd’ os ydych wedi bod yn preswylio fel arfer ar Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw cyn dechrau eich cwrs. Felly, gallech fod yn gymwys i wneud cais am gefnogaeth ariannol gan lywodraethau Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw i’ch helpu i dalu costau prifysgol.

Tramor

Mae'n debygol y bydd gennych statws ffioedd 'tramor' os nad ydych yn byw yn y DU ac nad ydych yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf a ddisgrifir o dan 'cartref'.

Os ydych yn geisiwr lloches neu’n blentyn i geisiwr lloches, gallech fod yn gymwys i beidio â gorfod talu’r ffioedd dysgu arferol ar gyfer rhai rhaglenni. Os felly, bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu gostwng o'r ffi 'tramort i'r ffioedd 'cartref' a godir am eich cwrs. Noder y bydd eich statws ffioedd yn parhau i fod yn ffioedd 'tramor'.

Penderfynu eich statws ffioedd

Nid ydym yn gallu gwneud penderfyniad ynghylch eich statws ffioedd cyn i chi gyflwyno cais.

Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cael cadarnhad o’u statws ffioedd pan fyddant yn cael cynnig. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnom wrth dderbyn eich cais, byddwn yn gofyn i chi gwblhau holiadur statws ffioedd.

Byddwn yn defnyddio'r canllawiau a ddarperir gan UKCISA wrth bennu eich statws ffioedd.

Gofyn am adolygiad o’ch statws ffioedd

Gall ymgeiswyr ofyn am adolygiad o’u statws ffioedd drwy ddilyn y broses a amlinellir ar y dudalen statws ffioedd ar ein tudalennau gwybodaeth gyhoeddus.