Ffioedd israddedig myfyrwyr yr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
Mae’r ffioedd dysgu’n daladwy i Brifysgol Caerdydd am bob blwyddyn o’ch cwrs (gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd).
Bydd y ffi flynyddol yn talu’r holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholi ond nid ffi ailsefyll arholiadau gan ymgeiswyr sydd heb eu cofrestru ar y pryd. Mae’r ffioedd ar gyfer llety’r Brifysgol yn rhai ychwanegol.
Efallai y bydd arian ar gael tuag at gost eich ffioedd dysgu. Ewch i'n tudalennau am arian i gael rhagor o wybodaeth.
Os nad ydych yn siŵr am eich statws ffioedd (DU, Ynysoedd, UE neu ryngwladol) edrychwch ar ein tudalen statws ffioedd.
Mynediad 2021
Math o fyfyriwr | Ffi 2021/22 |
---|---|
Band 1: Myfyrwyr ym maes y celfyddydau/dyniaethau neu bynciau ystafell ddosbarth | £9,000 |
Band 2: Myfyrwyr gwyddoniaeth/peirianneg neu bynciau labordy/stiwdio | I'w gadarnhau |
Band 3: Cyrsiau israddedig clinigol | I'w gadarnhau |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o’r ffi amser llawn |
Ffioedd ar ôl y flwyddyn gyntaf
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd dilynol mewn cwrs, yn unol â’r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru.
Pan fo’n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid erbyn mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn pan fydd y ffioedd yn cynyddu.
Blynyddoedd blaenorol
Math o fyfyriwr | Ffi 2020/21 |
---|---|
Band 1: Myfyrwyr ym maes y celfyddydau/dyniaethau neu bynciau ystafell ddosbarth | £9,000 |
Band 2: Myfyrwyr gwyddoniaeth/peirianneg neu bynciau labordy/stiwdio | £10,500 |
Band 3: Cyrsiau israddedig clinigol | £24,675 |
Myfyrwyr ar flwyddyn ERASMUS dramor | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o’r ffi amser llawn |
Math o fyfyriwr | 2019/20 fee |
---|---|
Band 1: Myfyrwyr ym maes y celfyddydau/dyniaethau neu bynciau ystafell ddosbarth | £9,000 |
Band 2: Myfyrwyr gwyddoniaeth/peirianneg neu bynciau labordy/stiwdio | £10,500 |
Band 3: Cyrsiau israddedig clinigol | £24,675 |
Myfyrwyr ar raglen ERASMUS neu’r rhai sy'n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o’r ffi amser llawn |