Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Agored ac ymweliadau i israddedigion

Profwch sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd drwy archwilio ein campws a’n dinas a chwrdd â’n staff a’n myfyrwyr.

Mae Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i chi gael profiad uniongyrchol o sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Byddwch yn gallu:

  • cael rhagor o wybodaeth am eich pwnc o ddiddordeb
  • cael atebion i’ch cwestiynau gan ein staff
  • archwilio ein campws a'n dinas
  • cael cipolwg ar ein llety ar y campws

Cynhelir ein Diwrnodau Agored nesaf ddydd Gwener 30 Mehefin a dydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2023 o 09:00 - 16:00.

Cadw eich lle nawr

Byddwn hefyd yn cynnal diwrnodau agored yn yr hydref. Cewch wybod rhagor am y digwyddiadau hyn drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.

I gael blas o beth y gallwch ei ddisgwyl, porwch drwy ein tudalennau pwnc a gwybodaeth am lety.

Taith hunan-dywysedig o gwmpas y campws

Gallwch fynd ar daith hunan-dywysedig o gwmpas Campws Parc Cathays, sy’n daith gerdded fer o ganol dinas Caerdydd.

Mae’r daith yn para tuag awr, ond mae sawl dargyfeiriad opsiynol ar gael, gan ddibynnu ar yr hyn yr hoffech ymweld ag ef.

Oherwydd COVID-19, mae’n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau ar waith. Er diogelwch pawb, cadwch at unrhyw fesurau ychwanegol sydd ar waith.

Campws Parc Cathays: taith hunandywys

Defnyddiwch ein taith hunandywys i weld Prifysgol Caerdydd ar droed.

Ffeiriau a chonfensiynau

Rydyn ni bellach yn mynd i ffeiriau Addysg Uwch ledled y DU unwaith eto. Edrychwch ar amserlen ein digwyddiadau i weld pryd y byddwn yn eich ardal chi mewn digwyddiad nesaf.

Cyflwyniadau rhithwir

Gwnaethom gynnal cyfres o weminarau addysg uwch ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 12 a 13 rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Ionawr 2022. Roedd y gweminarau hyn yn rhoi sylw i’r holl bethau pwysig y mae angen meddwl amdanynt wrth wneud cais i'r brifysgol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.