Ewch i’r prif gynnwys

Ar ôl i chi wneud cais

Rydym yn falch iawn eich bod wedi gwneud cais i astudio gyda ni. Dewch o hyd i gyfarwyddiadau cam wrth gam ar yr hyn i'w ddisgwyl ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.

Olrhain eich cais

Gallwch olrhain eich cais gydag UCAS Hub.

Bydd UCAS yn cysylltu â chi drwy ebost neu lythyr wedi i chi gael o leiaf un cynnig. Os cynigir lle i chi, bydd yn gynnig diamod neu amodol:

Cynigion diamod

Mae hyn yn golygu eich bod wedi bodloni'r holl ofynion academaidd a'n bod yn fodlon eich derbyn.

Cynigion amodol

Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig lle i chi os byddwch yn bodloni amodau penodol. Mae'r rhain fel arfer yn seiliedig ar eich arholiadau neu brawf iaith Saesneg. Pan fyddwch wedi bodloni'r amodau a derbyn eich lle drwy UCAS, bydd eich cynnig yn newid i gynnig diamod.

Gwahoddiadau

Gan ddibynnu ar y cwrs, efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad neu ddiwrnod gwybodaeth neu gallem ofyn i chi gyflwyno portffolio o waith. Os felly, caiff hyn ei nodi'n glir yn UCAS Hub.

Pryd y caf wybod?

Bydd hyn fel arfer yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyflwyno eich cais drwy UCAS (ar ôl 1 Medi), felly gorau po gyntaf yr ewch ati. Fodd bynnag, nid oes rhaid i brifysgolion a cholegau wneud penderfyniad tan ddechrau mis Mai.

Rhaid i chi fynd ati nawr i ystyried eich cynigion a rhoi gwybod i UCAS am eich dewis drwy'r system UCAS Hub. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ateb eich cais i'w weld yn yr Hub.

Newyddion gwych, os ydych chi wedi cael cynnig gan Brifysgol Caerdydd. O gyfleusterau campws o'r radd flaenaf i ragolygon gyrfa rhagorol, mae nifer o resymau dros ddewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer eich astudiaethau israddedig.

Mae gennych dri dewis:

Derbyn yn gadarn

Dyma'r dewis cyntaf/sydd orau gennych. Dim ond un cynnig y gallwch ei dderbyn yn gadarn.

Derbyn fel dewis wrth gefn (dewisol)

Os cynnig amodol yw'r cynnig yr ydych wedi'i dderbyn yn gadarn, cewch dderbyn cynnig arall (amodol neu ddiamod) fel dewis wrth gefn rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau'r cynnig yr ydych wedi'i dderbyn yn gadarn. Dim ond un cynnig y gallwch ei dderbyn fel dewis wrth gefn.

Gwrthod

Rhaid i chi wrthod pob cynnig arall. Os nad ydych am dderbyn unrhyw gynnig, gallwch wrthod pob un ohonynt. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch wedyn yn gymwys i ddefnyddio gwasanaeth UCAS Extra neu glirio.

Cewch wybodaeth fanwl am sut a phryd i ymateb i gynigion ar wefan UCAS.

Beth i'w wneud os na chewch unrhyw gynigion

Os na chewch unrhyw gynigion neu os ydych yn dewis gwrthod pob cynnig, efallai y cewch gyflwyno cais ar gyfer cwrs arall drwy UCAS Extra. Dim ond ar gyfer y cyrsiau hynny sydd â lleoedd ar ôl arnynt y gallwch gyflwyno cais ar eu cyfer. Mae gwasanaeth Extra ar agor rhwng diwedd mis Chwefror a dechrau mis Gorffennaf. Yn Extra, gallwch gyflwyno cais ar gyfer un cwrs ar y tro drwy ddefnyddio UCAS Hub.

I fod yn gymwys ar gyfer UCAS Extra, mae angen i chi fod wedi:

  • gwneud pum dewis eisoes
  • cael penderfyniadau gan bob un o'r dewisiadau hyn, a
  • naill ai heb gael unrhyw gynigion neu wedi gwrthod pob un o'ch cynigion.

Cofiwch: Os byddwch yn gwrthod eich cynigion ac yn ychwanegu dewis drwy wasanaeth Extra, ni fyddwch yn gallu derbyn unrhyw un o'ch dewisiadau gwreiddiol yn ddiweddarach.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan UCAS.

Caiff llawer o ganlyniadau arholiadau eu hanfon atom yn uniongyrchol gan UCAS, felly ni fydd angen i chi anfon copïau atom. Gallwch edrych ar UCAS i weld canlyniadau pa arholiadau maent yn eu cael.

Os na fydd UCAS yn rhoi eich canlyniadau i'r Brifysgol, bydd angen i chi lanlwytho copi o'ch tystysgrif swyddogol neu'ch trawsgrifiad drwy'r gwasanaeth cais ar-lein.

Os na allwch lanlwytho copi o'ch canlyniadau, gallwch anfon ebost atom neu eu postio atom. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom yn y post.

Mae'r brifysgol wedi'i rhwymo gan ofynion Deddf Diogelu Data 1998 o ran diogelu gwybodaeth bersonol. Ni fydd y Brifysgol yn trafod eich cais â neb oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i'r Brifysgol wneud hynny.

Gallwch awdurdodi rhywun i ymateb i'n ceisiadau am wybodaeth, cyflwyno gohebiaeth a gwneud penderfyniadau, er enghraifft ynghylch dewisiadau llety, ar eich rhan. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn bwriadu teithio yn ystod blwyddyn i ffwrdd. Dylid anfon manylion yn ysgrifenedig at y tîm derbyn.

Gobeithiwn y bydd Diwrnod y Canlyniadau yn ddiwrnod i’w ddathlu, ond os aiff pethau o chwith mae’n bwysig bod yn barod. Y ffordd orau o baratoi yw deall eich holl opsiynau a chynllunio ar gyfer pob sefyllfa.

Beth mae eich canlyniadau'n ei olygu

Mae tair prif senario: y cyntaf yw eich bod yn gwneud yn well na’r disgwyl, yr ail yw eich bod yn derbyn y graddau yr oeddech eu heisiau, a’r trydydd yw nad ydych yn derbyn y graddau yr oedd eu hangen i sicrhau eich lle yn y brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am beth mae eich canlyniadau’n ei olygu a beth i'w wneud ar ôl eu cael.

Os nad ydych yn bodloni amodau unrhyw un o'r cynigion yr ydych wedi'u derbyn, mae’n bosibl na fydd y prifysgolion yr ydych wedi’u dewis yn cynnig lle i chi.

Gallwch wirio UCAS i weld a ydych yn gymwys ar gyfer clirio. Ni fydd UCAS yn anfon unrhyw beth yn y post i ddweud wrthych a ydych yn gymwys, felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio ar-lein.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio gyda ni, gofynnwch gwestiwn i ni gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt.

Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'n helpu i ateb eich ymholiad.