Diwrnodau Agored ac ymweliadau
Dewch i adnabod Prifysgol Caerdydd yn y ffordd sydd orau i chi. Dewiswch sut rydych chi am brofi ein campysau a'n dinas a chael gwybod mwy am fod yn fyfyriwr gyda ni.
Dewch i grwydro o gwmpas ein campws, cwrdd â’r staff a myfyrwyr, a chael blas go iawn ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.
Dewch i gael cyngor ymarferol ar astudiaethau pellach a chael gwybod ai Prifysgol Caerdydd yw’r lle iawn i chi.
Mae cynrychiolwyr y brifysgol yn mynychu digwyddiadau'n rheolaidd ar gyfer darpar fyfyrwyr ym mhedwar ban y byd, a bydd y rhain yn digwydd wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.
Rhagor o wybodaeth am y ffeiriau a'r confensiynau rhithwir rydyn ni'n mynd iddynt a sgwrsio â staff o'r Swyddfa Israddedigion.
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cynlluniwch eich ymweliad â Chaerdydd
Gall ein canllawiau eich helpu i weld y ddinas, dod o hyd i bethau i’w gwneud tra byddwch yma a rhoi gwybodaeth am hygyrchedd ein hadeiladau.
Cyfarwyddiadau ar gyfer teithio i'r campws
Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd
Mynediad i'n hadeiladau
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer teithio i Gaerdydd mewn awyren, bws, trên neu gar, ac i grwydro o amgylch ein campysau.