Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad personol

Beth yw'r datganiad personol? Pam mae’n rhaid inni ei weld? Oes ots?

Mae'r datganiad personol yn rhan bwysig o'r broses ymgeisio. Mae'n eich helpu i benderfynu pa raglen neu raglenni i ymgeisio amdani/amdanyn nhw ac ym mha brifysgolion.

Mae hefyd yn eich helpu i ddeall a chanolbwyntio ar y sgiliau a'r priodoleddau gwahanol sydd gennych chi a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich dewis raglen astudio. Yn y datganiad ceir uchafswm o 4000 o nodau ac mae gofyn i’r ymgeiswyr ateb tri chwestiwn ac ysgrifennu o leiaf 350 o nodau ym mhob adran. Y cwestiynau yw:

  • Pam rydych chi eisiau astudio’r cwrs neu’r pwnc hwn?
  • Sut mae eich cymwysterau a'ch astudiaethau wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y cwrs neu'r pwnc hwn?
  • Beth arall rydych chi wedi’i wneud i baratoi y tu allan i fyd addysg, a pham mae'r profiadau hyn yn ddefnyddiol?

Yn achos y rhan fwyaf o raglenni, wrth ystyried eich cais byddwn ni’n canolbwyntio ar eich canlyniadau academaidd hyd yn hyn neu’r canlyniadau posibl, gan mai dyma’r ffordd orau i ragfynegi llwyddiant yn un o'n rhaglenni gradd.

Yn achos rhaglenni lle bydd datganiadau personol yn rhan amlwg o'r broses ddethol, bydd hyn yn cael ei amlinellu'n glir yn y gofynion mynediad a/neu’r dogfennau meini prawf derbyn cysylltiedig, a rhoddir gwybodaeth glir am sut y bydd y datganiad personol yn cael ei ddefnyddio.

Yn achos rhaglenni eraill, gellir defnyddio'r datganiad personol os bydd rhaglen wedi'i gordanysgrifio – fydd hyn ddim yn digwydd yn aml iawn – ac rydyn ni’n ceisio dewis rhwng ymgeiswyr â phroffiliau academaidd tebyg, neu os na lwyddwch o drwch blewyn i gael y radd/graddau angenrheidiol yn eich dewis gwrs ac mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael o hyd. Yn yr achosion hyn, efallai y byddwn ni’n edrych ar eich datganiad personol i weld a yw eich diddordebau a'ch profiad yn dangos unrhyw sgiliau ychwanegol a allai eich helpu i lwyddo ar y cwrs. Gellir ei ddefnyddio hefyd i ddeall amgylchiadau esgusodol a’r cyd-destun pan gawsoch chi’r cymhwyster/cymwysterau.

Canllaw sylfaenol am yr hyn i’w wneud a pheidio i’w wneud wrth ysgrifennu'ch datganiad personol

  • Ymchwiliwch yn drylwyr i'ch dewis gyrsiau gradd i sicrhau bod cynnwys y cwrs a’r gofynion mynediad yn cyd-fynd â'ch diddordebau/galluoedd.
  • Cymerwch eich amser dros y cais a byddwch yn barod i ysgrifennu tri drafft o leiaf cyn cyflwyno’r ffurflen i'ch tiwtor. Cymerwch eich amser i sicrhau nad oes gwallau sillafu neu ramadegol.
  • Argraffwch gopi i weld oes gwallau a gofyn i ffrind/perthynas/athro am adborth.
  • Byddwch yn gadarnhaol – am y cwrs a'r cyfan sydd gennych chi i'w gynnig.
  • Peidiwch â rhoi esgusodion – byddwch bob amser yn gadarnhaol am yr hyn rydych chi wedi'i wneud a'i gyflawni.
  • Peidiwch â malu awyr – gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a nodir yn berthnasol a’ch bod yn dangos sut mae’r sgiliau a ddysgwyd yn sgil hobïau/diddordebau allanol yn drosglwyddadwy i'ch dewis radd.
  • Peidiwch ag ailadrodd gwybodaeth mewn adrannau gwahanol – weithiau bydd cyflawniadau yn ymddangos mewn mwy nag un adran, dewiswch yr un fwyaf priodol.
  • Peidiwch â gadael popeth tan y funud olaf.
  • Peidiwch â defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) neu ChatGPT – gall y rhain ysgrifennu datganiad drosoch chi ond fydd hwn ddim yn ddatganiad personol.
  • Peidiwch â dweud celwyddau – efallai y cewch eich dal allan, yn enwedig os gofynnir ichi ymhelaethu ar eich datganiad personol mewn cyfweliad. Cofiwch fod UCAS yn defnyddio gwasanaeth canfod tebygrwydd i ganfod gwaith sydd wedi'i gopïo.