Ewch i’r prif gynnwys

Dyddiadau allweddol

Dylid defnyddio’r amserlen ganlynol fel canllaw, ac mae’n berthnasol i’r rheini sydd wedi dewis dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2024.

2024

  1. 31 Ionawr Dyddiad cau ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig

    Gallwch barhau i wneud cais tan 30 Mehefin ond bydd tiwtoriaid derbyn ond yn ystyried eich cais yn ôl eu disgresiwn.

  2. 28 Chwefror UCAS Extra yn agor

    Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gradd israddedig amser llawn ym Mhrifysgol Caerdydd, ond eich bod eisoes wedi gwrthod neu wedi'ch gwrthod gan eich pum dewis neu os ydych yn ymgeisio ar ôl dyddiad cau ystyriaeth gyfartal UCAS (31 Ionawr), efallai y byddwch yn gymwys i gael UCAS Extra.

  3. 18 Mai

    Mae’n rhaid i Brifysgolion wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau sy'n weddill a gyflwynwyd cyn 31 Ionawr. Fel arall, penderfynir yn awtomatig bod y dewisiadau hynny'n aflwyddiannus.

  4. 8 Mehefin

    Os ydych yn cael pob penderfyniad gan y prifysgolion erbyn 18 Mai, mae’n rhaid i chi ateb unrhyw gynigion erbyn y dyddiad hwn, neu cânt eu gwrthod (oni bai eich bod yn defnyddio Extra i ddod o hyd i le).

  5. 30 Mehefin Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr

    Dyma’r ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Ionawr. Mae'n bosibl cyflwyno cais hwyr ar gyfer cyrsiau a rhaglenni sy’n parhau i fod yn agored i geisiadau.

  6. 4 Gorffennaf

    Dyddiad olaf i ychwanegu dewis Extra yn UCAS Track.

  7. 5 Gorffennaf

    Clirio’n agor, lleoedd gwag yn cael eu dangos.

  8. 6 Gorffennaf

    Diwrnod canlyniadau’r Fagloriaeth Ryngwladol.

  9. 12 Gorffennaf

    Disgwylir penderfyniadau gan brifysgolion ynghylch ceisiadau a gyflwynwyd erbyn 30 Mehefin. Fel arall, penderfynir yn awtomatig mai aflwyddiannus bod y dewisiadau hynny'n aflwyddiannus.

  10. 17 Gorffennaf

    Os ydych yn cael pob penderfyniad gan brifysgolion erbyn 12 Gorffennaf, atebwch unrhyw gynigion erbyn y dyddiad hwn. Fel arall, cânt eu gwrthod a chaiff eich cais ei roi yn y system Glirio, os ydych yn gymwys.

  11. 6 Awst

    Cyhoeddir canlyniadau SQA.

  12. 15 Awst

    Cyhoeddir canlyniadau Safon Uwch.

  13. 21 Medi

    Diwrnod olaf y gall myfyrwyr wneud cais uniongyrchol i’r system Glirio.

  14. 15 Hydref

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer Meddygaeth a Deintyddiaeth yn dechrau yn 2025.

  15. 17 Hydref

    Clirio a chylch 2024 yn dod i ben.